Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Parcio a Thrwyddedau Blue Badge Bathodynnau glas ar gyfer sefydliadau/mudiadau

Bathodynnau glas ar gyfer sefydliadau/mudiadau


Summary (optional)
Gellir rhoi bathodyn glas i sefydliadau/mudiadau sy'n gyfrifol am ofal a chludiant pobl anabl.
start content

Ydi fy sefydliad/mudiad yn gymwys?

Rhoddir bathodynnau sefydliadol i sefydliadau sydd â cherbydau sy’n cario pobl anabl a fyddai eu hunain yn gymwys am fathodyn.

Gall eich sefydliad/mudiad wneud cais os oes ganddynt gerbydau sydd wedi’u trwyddedu o dan ddosbarth trethiant Cerbyd Teithwyr Anabl (DPV).

Rhaid i Reolwr / Dirprwy Reolwr y sefydliad  wneud cais ar-lein trwy wefan GOV.UK.

Os mai nifer cymharol isel o bobl sy’n cwrdd â’r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn yn eich sefydliad, byddai’n well i’r bobl anabl eu hunain wneud cais am fathodynnau. Mae hyn wedyn yn caniatáu i’r deiliad ddefnyddio eu bathodynnau mewn unrhyw gerbyd y maent yn teithio ynddynt. Dan bob amgylchiad, rhoddir bathodynnau i’r sefydliad neu’r adran ac nid i unigolion a enwir.

Mae'n annhebygol y byddai tacsi neu weithredwr cerbydau preifat a gweithredwyr cludiant cymunedol yn gymwys am fathodyn glas sefydliadol, gan nad ydynt yn ymwneud fel arfer â gofalu am bobl anabl a fyddai'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster.

Er mwyn prosesu eich cais, bydd arnom angen y canlynol:

  • Copi o'ch eithriad treth mewn perthynas â DPV neu lythyr o gadarnhad gan y DVLA (os yn gymwys)
  • Copi o logo'r cwmni (caiff ei drosglwyddo i'r bathodyn)
  • Ffi weinyddu o £10.00 – ni allwn ad-dalu hyn

 

Talu am eich Bathodyn Glas

 

end content