Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dychwelyd Bathodyn Glas


Summary (optional)
start content

Rhaid i chi ddychwelyd Bathodyn Glas:

  • os ydi’r bathodyn wedi dod i ben a’ch bod wedi cael un newydd
  • os ydi’r bathodyn wedi dod i ben ac os nad ydych chi’n ei adnewyddu
  • os ydi eich cyflwr wedi gwella sy’n golygu nad ydych chi angen y bathodyn bellach
  • os bydd bathodyn sydd ar goll neu wedi ei ddwyn yn cael ei ddarganfod neu ei ddychwelyd a’ch bod wedi cael un yn ei le
  • os bydd y bathodyn wedi’i ddifrodi neu wedi colli’i liw neu os nad oes modd ei ddarllen
  • os bydd deiliad y bathodyn yn marw
  • os nad ydi eich sefydliad yn bodoli bellach neu os nad ydynt bellach yn cludo pobl anabl

Gallwch ddychwelyd bathodynnau yn y cnawd i’n swyddfeydd yng:

Nghoed Pella,
Conwy Road,
Bae Colwyn,
LL29 7AZ

neu drwy’r post i:

Blue Badge,
PO Box 1,
Conwy,
LL30 9GN

Os ydych chi’n parhau i ddefnyddio bathodyn sydd wedi dod i ben, neu fathodyn nad ydych chi’n gymwys ar ei gyfer, yna mae’n bosib y gellir y cewch eich erlyn a chael dirwy.

end content