Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Newidiadau i brosesau Rheoli Datblygu


Summary (optional)
start content

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r broses Gynllunio (a ddaw i rym o 16 Mawrth 2016) sy'n cynnwys:

Newidiadau i’r Datganiadau Dylunio a Mynediad (DDM) – Bydd y gofyniad i gyflwyno DDM gyda chais cynllunio ond yn berthnasol yn yr achosion canlynol

  • Pob cais cynllunio ar gyfer datblygiad "mawr" ac eithrio rhai ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio; datblygiadau gwastraff; llacio amodau (ceisiadau adran '73') a cheisiadau newid defnydd sylweddol i dir neu adeiladau.
  • Pob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth neu safle Treftadaeth y Byd sy'n cynnwys darparu un neu ragor o anheddau neu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr (gros) neu fwy.

Dylai'r DDM egluro'r canlynol

  • egluro’r egwyddorion dylunio a'r cysyniadau sydd wedi'u gweithredu i'r datblygiad.
  • dangos y camau a gymerwyd i werthuso cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw.
  • egluro’r polisi neu'r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad a sut y mae polisïau yn ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi cael eu hystyried
  • egluro sut yr aethpwyd i’r afael ag unrhyw un o'r materion penodol a allai effeithio ar fynediad i'r datblygiad.

Hysbysu dechrau datblygu – mae bellach angen i ddatblygwyr roi gwybod i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a chyflwyno ffurflen yn nodi eu bod yn bwriadu dechrau datblygu ar gynlluniau mawr.  Noder bod rhaid cydymffurfio ag unrhyw amodau perthnasol cyn dechrau datblygu

Codir tâl bellach am ddiwygiadau i geisiadau mawr nad ydynt wedi eu penderfynu - diwygiadau ar ôl cyflwyno

Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ar yr holl newidiadau newydd i'r Broses Gynllunio gan gynnwys yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio newydd sy'n ofyniad dilysu ar gyfer datblygiad mawr o 1 Awst 2016, ewch draw i wefan Llywodraeth Cymru.

end content