Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhestr Ddilysu Lleol


Summary (optional)
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Cyngor wedi penderfynu mabwysiadu Rhestr Ddilysu Leol (LVL). Pwrpas y Rhestr yw egluro beth fydd angen ei gyflwyno gyda cheisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr er mwyn sicrhau eu bod yn ddilys.
start content

O 1 Ionawr 2017 ymlaen, rhaid i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr ddod gyda gofynion perthnasol (a elwir yn 'ofynion dilysu') yn yr atodlen sy’n amgaeedig.  Os bydd unrhyw un o'r gofynion hyn ar goll, bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried i fod yn annilys ac ni fyddant yn cael eu cofrestru.

Mae’r Rhestr ond yn berthnasol i geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr sy'n cynnwys un neu fwy o'r canlynol:

  • Tynnu a gweithio mwynau;
  • Defnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithio mwynau;
  • Datblygiad gwastraff;
  • Darparu 10 neu ragor o dai annedd newydd;
  • Darparu tai annedd ar safle gydag arwynebedd o 0.5 hectar neu fwy lle nad yw nifer y tai annedd yn hysbys;
  • Darparu adeilad neu adeiladau pan fo'r arwynebedd llawr sydd i'w greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy;
  • Datblygiad a gynhelir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy

Atodlen Rhestr Ddilysu Lleol

end content