Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi sylw ar Gais Cynllunio


Summary (optional)
Gall unrhyw un wrthwynebu, cefnogi neu roi sylw ar gais cynllunio.
start content

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau’n caniatáu cyfnod o 21 diwrnod er mwyn gwneud sylwadau. Gallwch weld unrhyw sylwadau ar geisiadau cynllunio gan ddefnyddio ein Porwr Cynllunio.

Gallwch ond gyflwyno eich sylwadau, gwrthwynebiadau a chefnogaeth, trwy e-bost neu'n ysgrifenedig. Nid ydym yn derbyn sylwadau dienw neu dros y ffôn. 

Rhaid i sylwadau gynnwys:

  • Dyddiad
  • Eich enw a chyfeiriad
  • Rhif y cais
  • Cyfeiriad y safle

Sut ydw i'n gwrthwynebu, yn cefnogi neu’n rhoi sylwadau ar gais cynllunio?    

  • E-bost - gallwch anfon eich sylwadau atom: cynllunioplanning@conwy.gov.uk
  • Yn ysgrifenedig - Os ydych yn dymuno postio eich sylwadau atom, dyfynnwch rif y cais yn glir (yn y fformat 0/#####) a’i gwneud yn glir i ni a ydych yn gwrthwynebu, yn cefnogi neu’n rhoi sylwadau ar gais.

Dylid anfon llythyrau i’r cyfeiriad canlynol:

Rheoli Datblygu
Blwch Post 1
CONWY
LL30 9GN


Beth allaf roi sylwadau arnynt?

Bydd yr holl sylwadau a dderbyniwn am gais cynllunio yn cael eu hystyried, ond dim ond materion cynllunio sy’n cael eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Ein polisïau cynllunio a gynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), megis polisïau ynghylch darparu tir ar gyfer tai. 
  • Cyngor cynllunio gan Lywodraeth Cymru, megis Polisi Cynllunio Cymru neu Nodiadau Cyngor Technegol.
  • Egwyddor - os ydych yn teimlo bod union natur y cynnig yn amhriodol ac na ddylid newid defnydd y tir neu eiddo.
  • Edrych drosodd – os byddai uchder neu agosrwydd y datblygiad yn arwain at edrych dros ardaloedd neu eiddo cyfagos.
  • Cysgodi – os byddai uchder neu agosrwydd y datblygiad yn effeithio ar y golau naturiol sy’n cael ei fwynhau gan ardaloedd neu eiddo cyfagos ar hyn o bryd.
  • Aflonyddu - Byddai amhariad annerbyniol ar ffurf niwsans sŵn, aflonyddwch cyffredinol, arogl ac ati.
  • Ymyrraeth ormesol – Os yw maint y gwaith yn golygu bod y datblygiad yn cael effaith ormesol ar ardaloedd neu eiddo cyfagos.
  • Anghydnaws - Os bydd y dyluniad neu ymddangosiad y datblygiad, ei faint a'i ddefnydd, yn golygu ei fod yn edrych yn anghydnaws â’r hyn sydd o’i gwmpas.
  • Diogelwch Priffyrdd – Os yw’r datblygiad yn arwain at effaith sylweddol ar ddiogelwch ffyrdd. Er enghraifft, diogelwch cerddwyr, problemau parcio, atal gyrwyr rhag gweld yn glir neu symud yn rhwydd.
  • Cadwraeth Hanesyddol – Os byddai’r lleoliad yn effeithio ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth     
  • Bywyd Gwyllt – Os byddai’r cynnig yn effeithio ar fywyd gwyllt lleol a choed a warchodir

 
Beth nad ydym yn ei ystyried

Nid ydym yn ystyried y canlynol fel arfer:

  • colli golygfa neu agwedd
  • cyfamodau neu gytundebau sifil rhwng perchnogion tir  
  • materion personol sy'n ymwneud â'r ymgeisydd penodol
  • anghydfodau perchnogaeth tir (Er enghraifft, nid yw gwrthwynebiadau y bydd datblygiad yn ymwthio ar dir rhywun arall neu dorri amod yng ngweithredoedd yr eiddo preifat yn faterion cynllunio.)     
  • anghydfodau ynghylch ffiniau
  • a yw'r gwaith wedi dechrau
  • newidiadau i werthoedd tir neu eiddo
  • sŵn adeiladu


Cyhoeddi Sylwadau

Yn gyfreithiol, mae’n rhaid rhoi unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnewch ar gais ar y gofrestr gyhoeddus. Rydym yn gwneud hyn drwy gyhoeddi eich sylwadau ar ein gwefan.

Bydd eich sylwadau, eich enw a’ch cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi. Bydd hyn yn golygu bod modd i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu canfod drwy borwyr ar y we.

Er mwyn diogelu eich data personol, byddwn yn cael gwared ar unrhyw lofnod, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyn ei gyhoeddi.

Ni fyddwn yn cyhoeddi:

  • sylwadau anhysbys neu ‘cyfrinachol’
  • sylwadau anaddas


Sylwadau anaddas

Ni fyddwn yn cyhoeddi sylwadau yr ydym yn credu sy’n:

  • ddifenwol, enllibus, hiliol, anweddus neu sarhaus
  •  gwybodaeth bersonol sensitif (er enghraifft, materion sy’n berthnasol i iechyd, oedran neu gefndir unigolion neu fanylion personol unrhyw blant sydd yn preswylio mewn annedd benodol).

Efallai byddwn yn cyhoeddi rhan o’ch sylw ond yn tynnu’r sylwadau anaddas. Byddwn fel arfer yn eich hysbysu o’r penderfyniad hwnnw. Ni fyddwn yn eich gwahodd i gynnig rhagor o sylwadau os yw hyn yn achosi oedi wrth benderfynu ar y cais cynllunio.

end content