Manylion y cwrs:
Nod: I godi ymwybyddiaeth ynglŷn â chamfanteisio’n rhywiol ar blant, cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y gall camfanteisio’n rhywiol ar blant ddigwydd, beth yw'r risg i blant a phobl ifanc a pha gamau y gellir eu cymryd.
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu:
- Diffinio beth a olygir gan gamfanteisio’n rhywiol ar blant
- Deall y risg o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant
- Adnabod dangosyddion risg ac unigolion sy'n agored i niwed
- Archwilio’r broses o sut mae camdriniaeth yn digwydd
- Datblygu cynllun diogelwch teulu a cheisio cymorth a rhoi gwybod am achosion
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.