Manylion y cwrs:
NOD: Bydd y gofalwr maeth yn gallu disgrifio sut fyddant yn helpu’r plentyn yn y lleoliad i reoli y newidiadau yn eu bywyd, gan ystyried eu profiadau blaenorol.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Llun 9 Hydref 2023 |
9:30am-12:30pm |
Zoom |
Y Bont |
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth a Gofalwyr sy'n Unigolion Cysylltiedig |
Dydd Iau 29 Chewfor 2024 |
9:30am-12:30pm |
Zoom |
Y Bont |
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth a Gofalwyr sy'n Unigolion Cysylltiedig |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu:
- Ystyried effaith newid ar blant a phobl ifanc
- Adlewyrchu sut bydd trawsnewidiadau blaenorol yn effeithio ar rai dilynol
- Ystyried sut y gall hyn effeithio ar newidiadau dydd i ddydd fel dechrau ysgol neu fynd ar wyliau
- Dechrau ystyried newidiadau mewn lleoliad a ffyrdd y gellir paratoi ar gyfer y rhain
- Archwilio sut y gall gofalwr maeth gynorthwyo plentyn neu berson ifanc i reoli trawsnewidiadau o’r fath
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.