Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Busnesau bwyd cymeradwy


Summary (optional)
Os ydych yn cynhyrchu neu'n trin bwyd sy'n cael ei wneud o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, i'w cyflenwi i fusnesau eraill, yna efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch.
start content

A oes angen cymeradwyaeth arnaf?

Bydd eich busnes bwyd angen cymeradwyaeth os ydych yn bwriadu defnyddio "cynhyrchion heb eu prosesu sy'n dod o anifeiliaid" e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llaeth amrwd, wyau, i gynhyrchu unrhyw un, neu gyfuniad o'r canlynol:

  • Briwgig a pharatoi cig.
  • Cynhyrchion cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol.
  • Molysgiaid bi-falf byw a chynhyrchion pysgodfeydd.
  • Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth amrwd gwartheg).
  • Cynnyrch llefrith.
  • Wyau (nid cynhyrchu sylfaenol).
  • Cynhyrchion wyau.
  • Storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu.
  • Coesau llyffantod a malwod.
  • Brasterau anifeiliaid a choesarnau wedi’u rendro.
  • Stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin.
  • Gelatin a cholagen. 

Eithriadau

Os yw eich busnes yn cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'r defnyddiwr olaf yn unig, h.y. y sawl sy'n bwyta'r cynnyrch bwyd, yna efallai y caiff ei eithrio rhag cymeradwyaeth, fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau bod eich busnes wedi'i gofrestru gyda ni

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych yn meddwl efallai y bydd angen cymeradwyo eich busnes bwyd arfaethedig, cysylltwch â ni i drefnu ymweliad â'ch eiddo bwriedig. Yn ystod yr ymweliad efallai y bydd angen cael rhaglen gynlluniedig o waith er mwyn cyflawni cymeradwyaeth a gall fod angen i chi a / neu eich gweithwyr gael mwy o hyfforddiant yn gymesur â maint a natur eich busnes.

Yn ogystal â bodloni gofynion strwythurol penodol, bydd angen i’ch adeilad gael system Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol yn ei le.

Os yw eich busnes bwyd angen cymeradwyaeth, nid ydych yn gallu gweithredu hyd nes y bydd y gymeradwyaeth wedi'i rhoi gan yr awdurdod, a bod rhif cymeradwyo unigryw wedi’i roi, y mae'n rhaid ei gymhwyso i’r cynnyrch.

Mae hefyd yn ofynnol i chi fod wedi cael hyfforddiant digonol mewn cymhwyso egwyddorion HACCP ac i chi a'ch staff fod wedi cael eich cyfarwyddo neu eich hyfforddi mewn materion hylendid bwyd i lefel sy'n briodol i'ch swyddi.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â'r Tîm Diogelwch Bwyd.

end content