Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Alergenau Bwyd


Summary (optional)
Fel busnes mae gennych rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu gwybodaeth am alergenau yn eich bwyd i gwsmeriaid.
start content

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Rhagfyr 2014 o'r enw Rheoliadau Gwybodaeth Bwyd (Cymru), sy'n gosod cyfrifoldeb ar fusnesau bwyd i roi gwybod i gwsmeriaid os oes unrhyw un o'r 14 o alergenau a nodir isod yn cael eu defnyddio mewn pryd o fwyd. 

  • Seleri
  • Grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten
  • Cramenogion
  • Wyau
  • Pysgod
  • Bleiddbys
  • Llaeth
  • Molysgiaid
  • Mwstard
  • Cnau
  • Cnau daear
  • Hadau sesame
  • Soia
  • Sylffwr deuocsid

Nodwch: Mae yna alergenau bwyd eraill y gall pobl ddioddef ohonynt, ac mae’n rhaid gwasanaethu i’w hanghenion os ydynt yn rhoi gwybod i’r busnes am unrhyw alergedd. 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

  • Rhaid rhestru’r 14 alergen yn glir mewn lle amlwg fel bwydlen, bwrdd sialc neu becyn gwybodaeth.
  • Os nad yw’r wybodaeth hon ar ddangos, rhaid i’r busnes ddangos sut y gellir cael gwybodaeth o'r fath e.e.
    'Siaradwch â'n staff am y cynhwysion yn eich pryd, wrth roi eich archeb'
  • Mae angen hyfforddi Staff ar ofynion alergenau.  Mae hyfforddiant ar-lein yn rhad ac am ddim ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cyngor ac Arweiniad

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi llunio adnoddau amrywiol i helpu busnesau i gydymffurfio â'r rheoliadau, ac maent yn amrywio o bosteri, taflenni, cardiau ryseitiau yn ogystal â hyfforddiant alergenau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

end content