Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Iechyd yr Amgylchedd Diogelwch bwyd Hyfforddiant Hylendid Bwyd

Hyfforddiant Hylendid Bwyd


Summary (optional)
Rhaid i chi sicrhau bod y rhai rydych yn eu cyflogi i drin bwyd yn cael eu goruchwylio a'u cyfarwyddo a/neu eu hyfforddi mewn materion hylendid bwyd sy'n gymesur â'u gweithgarwch gwaith.
start content

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Rhaid i chi sicrhau bod y rhai rydych yn eu cyflogi i drin bwyd yn cael eu goruchwylio a'u cyfarwyddo a/neu eu hyfforddi mewn materion hylendid bwyd sy'n gymesur â'u gweithgarwch gwaith.

Bydd maint yr hyfforddiant yn dibynnu ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r un sy’n trin bwyd. Po fwyaf yw'r risg, y mwyaf helaeth yw’r hyfforddiant.

Dylai staff sy'n trin bwydydd agored, risg uchel gael hyfforddiant hylendid bwyd sy'n cyfateb i lefel 2, fel y Dyfarniad Lefel 2 Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo o fewn 3 mis i ddechrau gweithio.

Cyn i staff gael dechrau gweithio am y tro cyntaf fel un yn trin bwyd, dylent dderbyn cyfarwyddyd llafar neu ysgrifenedig ar Hanfodion Hylendid Bwyd o leiaf.

  • Cadwch eich hun yn lân a gwisgwch ddillad glân
  • Cofiwch olchi’ch dwylo yn drylwyr, cyn trin bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl trin gwastraff, cyn dechrau      gweithio, ar ôl pob egwyl ac ar ôl chwythu eich trwyn
  • Dywedwch wrth eich goruchwyliwr, cyn dechrau gwaith, am unrhyw haint ar y croen, trwyn, gwddf neu stumog neu os oes gennych glwyf heintiedig. Rydych yn torri'r gyfraith os nad ydych yn gwneud hyn
  • Sicrhewch fod toriadau a briwiau yn cael eu gorchuddio â gorchudd atal dŵr, sy’n amlwg iawn
  • Osgowch drin bwyd yn ddiangen
  • Peidiwch ag ysmygu, bwyta nac yfed mewn ystafell fwyd, a pheidiwch byth â phesychu neu disian dros fwyd
  • Os ydych yn gweld rhywbeth o’i le - dywedwch wrth eich goruchwyliwr
  • Peidiwch â pharatoi bwyd yn rhy bell ymlaen llaw cyn gwasanaeth
  • Cadwch fwyd darfodus naill ai mewn oergell neu'n chwilboeth
  • Cadwch y gwaith o baratoi bwydydd amrwd a bwydydd wedi'u coginio’n gwbl ar wahân
  • Wrth ail-wresogi bwyd, sicrhewch ei fod yn mynd yn chwilboeth
  • Glanhewch wrth i chi weithio. Cadwch yr holl offer ac arwynebau’n lân
  • Dilynwch gyfarwyddiadau diogelwch bwyd, naill ai ar becynnau bwyd neu gan eich goruchwyliwr

Mae'n arfer da bod y rhai sy’n trin bwyd agored, risg uchel ac sydd â gallu goruchwyliol fel pen gogydd neu gogydd, neu reolwyr, yn dilyn lefel uwch o hyfforddiant fel y Cwrs Hylendid Bwyd Canolradd (Lefel 3), neu'r Cwrs Hylendid Bwyd Uwch (Lefel 4).

Cynllun hyfforddi a chofnodion

Argymhellir eich bod yn darparu cynllun hyfforddi i nodi'r hyfforddiant neu’r profiad sydd ei angen ar gyfer pob aelod o staff. Ar ôl hynny, mae'n arfer da cadw cofnodion o hyfforddiant a gwblhawyd gan bob aelod o staff er mwyn helpu i ddangos cydymffurfiaeth â'r gofyniad hyfforddiant.

Adolygu Hyfforddiant

Dylid adolygu anghenion hyfforddiant eich staff yn rheolaidd a dylid cael hyfforddiant gloywi neu ddiweddaru lle bo angen. Argymhellir bod hyfforddiant gloywi rheolaidd yn cael ei wneud o leiaf bob 3 blynedd.

I gael manylion am ddarparwyr hyfforddiant, cysylltwch â'r tîm diogelwch bwyd neu dilynwch y dolenni isod.

Cyngor ac Arweiniad

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu 10 o fideos byr sy'n rhoi canllawiau arfer gorau ar nifer o faterion diogelwch bwyd posibl. Mae pob fideo tua munud o hyd. Maent yn dangos y rhain ac arferion hylendid bwyd arall:

  • Golchi dwylo effeithiol
  • Oeri bwydydd cyn gynted ag y bo modd
  • Gwirio bod bwydydd yn cael eu coginio'n drylwyr
  • Glanhau effeithiol
  • Beth i'w wneud os yw aelod o staff yn sâl yn y gwaith
  • Cadw plâu o'ch busnes
  • Beth i chwilio amdano a'r camau i'w cymryd

Os oes angen cymorth pellach, e-bostiwch foodsafety-healthandsafety@conwy.gov.uk

end content