Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyngor labelu bwyd


Summary (optional)
Rhaid i wybodaeth bwyd fod yn gywir, yn hawdd ei darllen a'i deall.
start content

‘Mae’r gyfraith yn cyflwyno rheolau i reoli sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei gyfansoddiad a’i labelu’ y Sefydliad Safonau Masnach

Yn fras:

  • rhaid i’r ansawdd gwrdd â disgwyliad y cwsmer
  • rhaid iddo fod fel y caiff ei ddisgrifio ac ni ddylai ei gyflwyno mewn ffordd a all gamarwain y cwsmer
  • ni chaniateir ychwanegu na thynnu unrhyw beth a all achosi niwed i iechyd

 (Dyddiadau) Ar ei orau cyn, Rhaid defnyddio cyn a Rhaid gwerthu cyn

  • Ar ei orau cyn: Mae’r term ‘ar ei orau cyn’ yn addas ar gyfer rhan helaeth o fwydydd. Mae’n ymwneud ag ansawdd y bwyd a beth yw’r cyfnod rhesymol i ddisgwyl i gynnyrch fod ar ei orau. Mae gan fanwerthwyr hawl i      werthu bwyd ar ôl y dyddiad yma cyn belled fod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
  • Rhaid defnyddio cyn: Mae’r term hwn yn addas i fwyd sy’n darfod yn sydyn. Mae’r mathau yma o fwyd yn gallu cyflwyno risg microbiolegol i’r cwsmer os yw’r bwyd yn cael ei werthu ar ôl y dyddiad a ddangosir. Mae’n drosedd i siopau werthu'r bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio cyn.
  • Rhaid gwerthu cyn: Gellir labelu cynnyrch gyda dyddiadau ‘rhaid gwerthu cyn’ ac ‘arddangoswch tan’ ond nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol am dermau o’r fath ac maent yn cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer adeiladau rheoli stoc. (Mae rheolau ar wahân ar gyfer wyau).

Honiadau Bwydlen

Mae’n gyffredin iawn canfod amryw o honiadau ar fwydlenni busnesau bwyd. Yn aml mae’r honiadau yn cael eu defnyddio i wneud y cynnyrch yn atyniadol a gall fod yn arwydd o ansawdd.

Gall honiadau amrywio o rai sydd â statws diogelu oherwydd lleoliad daearyddol, fel cig oen a chig eidion Cymreig, mae gan eraill statws diogelu oherwydd eu dulliau cynhyrchu traddodiadol, fel caws Roquefort, a wneir o lefrith dafad a’i aeddfedu mewn ogofâu yn Ffrainc. Gall honiadau eraill fod mewn perthynas â math arbennig o fwyd neu frand h.y.:

  • brecwast sydd yn cynnwys math penodol o ffa pob
  • cacen gaws sydd yn cynnwys math arbennig o wirodlyn
  • bod cig yn hanu o fferm benodol

Disgrifiadau Bwydlen

Mae’n rhaid i fusnes gymryd gofal i sicrhau nad ydynt yn camarwain cwsmeriaid pan maent yn disgrifio bwyd ar eu bwydlen.

Dyma enghreifftiau o ddisgrifiadau camarweiniol mae Llywodraethau Lleol wedi eu darganfod

  • Llysiau wedi eu ‘fflam rostio’ ond mewn gwirionedd wedi eu coginio mewn popty arferol
  • Peli cig ‘wedi eu gwneud yn ffres’ wedi eu prynu gan gyfanwerthwr
  • ‘Cawl cartref’ yn dod allan o becyn gyda dŵr poeth yn cael ei ychwanegu at bowdwr

Er mwyn cynorthwyo gwneuthurwyr, cynhyrchwyr, arlwywr a chwsmeriaid, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi dogfen gyfarwyddyd at ei gilydd er mwyn egluro a sicrhau cysondeb wrth ddefnyddio termau penodol megis Ffres, Traddodiadol, Naturiol a Bwyd Cartref a.y.y.b.

Canllaw ffres, pur, naturiol y safonau bwyd

Gofynion labelu

Os ydych yn gwerthu bwyd sydd wedi'i bacio ymlaen llaw, rhaid i chi roi'r wybodaeth ganlynol:

  • enw'r bwyd
  • dyddiad ar ei orau cyn neu ddyddiad defnyddio cyn
  • nifer
  • unrhyw rybuddion sydd eu hangen - er enghraifft, os yw bwyd yn cynnwys aspartame rhaid rhoi'r geiriad canlynol: 'Contains a source of phenylalanine'
  • rhestr o gynhwysion (os oes dau neu fwy)
  • p'un a yw'r bwyd yn cynnwys unrhyw un o'r 14 o alergenau penodol
  • enw a chyfeiriad y gweithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol
  • y rhif swp (neu ddyddiad defnyddio cyn os dymunwch)
  • unrhyw amodau storio arbennig
  • cyfarwyddiadau defnyddio neu goginio, os oes angen

Mae cyngor pellach ar gyfer labelu cynhyrchion gwahanol ar gael ar wefan Business Companion y Sefydliad Safonau Masnach.  

Gwybodaeth Bellach

Mae gwefan Business Companion y Sefydliad  Safonau Masnach (TSI) yn darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau ac unigolion y mae angen iddynt wybod am safonau bwyd a deddfwriaeth labelu.

Mae'r canllawiau wedi eu rhannu i mewn i Ganllawiau Cyflym bras ac mae pob un yn cynnwys nifer o Ganllawiau manylach.

Mae yna hefyd sawl canllaw wedi’u cynhyrchu gan Benaethiaid Safonau Masnach Cymru (WHoTS), sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yn cwmpasu bwydydd gwahanol, yn ogystal â bod yn benodol i fusnesau.  

end content