Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Hysbysiad ynglŷn ag Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio

Hysbysiad ynglŷn ag Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio


Summary (optional)
start content

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Hysbysiad ynglŷn ag Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio

Rhoddir rhybudd drwy hyn, yn unol ag Adran 18C Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (y Cyngor) yn cynnal adolygiad o’i ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio.

Gellir dod o hyd i wybodaeth berthnasol a mapiau mewn perthynas â’r trefniadau a’r cynigion cyfredol ar gyfer newidiadau ar wefan y Cyngor, neu gellir eu harchwilio ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU.

Bydd y Swyddog Canlyniadau Gweithredol ar gyfer etholaeth Seneddol Bangor Aberconwy’n cynnig sylwadau ar y cynigion. Bydd y sylwadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar gael i’w harchwilio ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU, yn unol â’r amserlen a amlinellir isod.

Gall etholwyr o fewn ardal y Cyngor neu o fewn etholaeth Seneddol y DU sydd ag unrhyw ran yn yr awdurdod gyflwyno sylwadau. Gwahoddwn sylwadau gan unrhyw etholwyr yn ymwneud â hwylustod y broses bleidleisio bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio yn ystod etholiadau a byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd amgen.

Byddai’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed barn trigolion, yn arbennig trigolion anabl, neu unrhyw un sydd ag arbenigedd mewn mynediad ar gyfer unigolion gydag unrhyw fath o anabledd, ar y cynigion, sylwadau’r Swyddog Canlyniadau Gweithredol neu unrhyw faterion perthnasol eraill.

Fe ddylai unrhyw un sy’n gwneud sylwadau, lle bo modd, gynnig lleoliadau amgen y gellid eu defnyddio fel mannau pleidleisio.

Gellir cyflwyno sylwadau fel a ganlyn:

Drwy'r post Gwasanaethau Etholiadol, Blwch Post 1, Conwy LL30 9GN
Drwy e-bost electoral@conwy.gov.uk
Drwy gwblhau  ffurflen adborth ar-lein

 

Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau erbyn dydd Gwener, 10 Tachwedd, 2023.

Amserlen
PrydCam
19 Hydref 2023  Cyhoeddi hysbysiad ffurfiol o’r adolygiad 
19 Hydref 2023  Dechrau’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus 
10 Tachwedd 2023  Diwedd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus
7 Rhagfyr 2023  Ystyriaeth o’r cynnig terfynol gan y Cyngor 
12 Ionawr 2024  Cyhoeddi’r gofrestr etholwyr ddiwygiedig 


Bydd canlyniad yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor ym mis Ionawr 2024 ac ar gael i’w archwilio ar wefan y Cyngor ac ym Modlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU.

Dylai unrhyw un sy’n cyflwyno sylwadau fod yn ymwybodol, ar ôl cwblhau’r adolygiad, bod yn rhaid i unrhyw ohebiaeth a sylwadau a dderbynnir gael eu cyhoeddi yn unol â’r gyfraith.

Dyddiedig:
19.10.2023
Rhun ap Gareth
Prif Weithredwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

end content