Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Prawf Adnabod i Bleidleisio

Prawf Adnabod i Bleidleisio


Summary (optional)
start content

Yn y DU, mae gofyniad cyfreithiol arnoch i ddangos prawf adnabod â llun wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Seneddol y DU (etholiadau cyffredinol) ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Nid yw’r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cymru, Cyngor Conwy a Chynghorau Cymuned.

Caiff y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain ei gosod gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gyrraedd gorsaf bleidleisio, bydd angen i chi ddangos ffurf wedi’i chymeradwyo o brawf adnabod i bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac etholiadau Seneddol.

Ffurfiau o Brawf Adnabod i Bleidleisio a dderbynnir:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Bathodynnau Glas
  • Cerdyn adnabod â llun Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Cerdyn Oyster 60+ a ariennir gan Lywodraeth y DU
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Bws Unigolyn Hŷn
  • Cerdyn Bws Unigolyn Anabl
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)


I gael rhestr estynedig, gweler rhestr y Comisiwn Etholiadol o’r ffurfiau o brawf adnabod a dderbynnir.

Gwnewch gais am brawf adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn ‘Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr’) - gwefan GOV.UK (www.gov.uk)

Os nad oes gennych chi ffurf o Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Os nad oes gennych ffurf dderbyniol o brawf adnabod â llun, gallwch chi wneud cais am ddogfen prawf adnabod i bleidleisio yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.

I wneud cais ar-lein: Gwnewch gais am brawf adnabod â llun i bleidleisio (a elwir yn ‘Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr’) - gwefan GOV.UK (www.gov.uk)

I wneud cais am gopi papur o’r ffurflen, cysylltwch ag: etholiadol@conwy.gov.uk

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yw 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.

Yng Nghymru, yr etholiad nesaf y bydd angen i chi ddarparu prawf adnabod i bleidleisio fydd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a gynhelir ar 2 Mai 2024.

Pleidleisiau Post a thrwy Ddirprwy

Os byddwch yn pleidleisio trwy’r post, ni fydd prawf adnabod i bleidleisio yn effeithio arnoch a bydd papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch fel yr arfer.

Os byddwch yn pleidleisio trwy ddirprwy, mae’n rhaid i’r unigolyn rydych wedi ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan, ddod â’u prawf adnabod i bleidleisio i’r orsaf bleidleisio. Os na fyddant yn ei ddangos, ni roddir papur pleidleisio iddynt.

end content