Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y gofrestr agored


Summary (optional)
Mae dau fersiwn o'r Gofrestr Etholwyr, y fersiwn etholiadol a'r fersiwn agored
start content

Y Gofrestr Etholiadol

Mae’r gofrestr ETHOLIADOL yn nodi enwau pawb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cael pleidleisio, a gellir ond ei defnyddio ar gyfer dibenion penodol yn unig, fel etholiadau, gorfodi’r gyfraith a gwirio eich hunaniaeth pan fyddwch wedi gwneud cais am gredyd.

Mae'n drosedd iddynt drosglwyddo'r wybodaeth hon i unrhyw un arall neu ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Dim ond dan oruchwyliaeth ym Modlondeb, Conwy a hynny drwy drefniant ymlaen llaw yn unig y gellir arolygu’r gofrestr etholiadol. Mae'n drosedd gwneud copïau ar wahân i nodiadau ysgrifenedig â llaw. Gall camddefnyddio data o'r gofrestr etholiadol arwain at ddirwy o hyd at £5,000.

Y Gofrestr Agored

Mae'r gofrestr AGORED yn cynnwys enwau pawb yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â’r hawl i bleidleisio heblaw am y rhai sydd wedi dewis cael eu heithrio o’r gofrestr. Gall unrhyw un brynu copi o'r gofrestr hon, a gellir ei defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas.

Os nad ydych eisiau trydydd parti, fel cwmnïau marchnata, i ddefnyddio’r gofrestr i gael eich manylion yna
mae’n rhaid i chi eithrio’ch hun o’r gofrestr agored.

Sut y gallaf wirio os yw fy enw ar y gofrestr agored?

 

Sut i Optio Allan

Mae’n rhaid i’ch manylion ymddangos ar y gofrestr etholiadol, ond gallwch ddewis peidio â chael eich rhestru ar y gofrestr agored. Gallwch wneud hyn:

  • Pan fyddwch chi’n llenwi’r ffurflen gofrestru i bleidleisio, naill ai ar-lein neu ar bapur. Bydd dewis ar y ffurflen i chi eithrio’ch hun o’r gofrestr agored.
  • Drwy lenwi’r ffurflen hon (dim ond os ydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy)

 

Mae’n rhaid i bob unigolyn cofrestredig roi gwybod i ni ar wahân os ydynt yn dymuno cael eu heithrio’n barhaol o’r gofrestr agored. Ni allwch wneud hyn ar ran person arall.

Derbyn post sgrwtsh a galwadau ffôn digroeso?

Ewch i'r dudalen "Atal post a galwadau ffôn sgrwtsh" i gael gwybodaeth am sut i stopio post marchnata a galwadau ffôn digroeso. Er ein bod yn gofyn am rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost, nid ydym yn eu trosglwyddo i unrhyw un arall. Dim ond os oes gennym ymholiad am eich cais y byddwn yn eu defnyddio.

end content