Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio 2023

Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio 2023


Summary (optional)
start content

Beth yw adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio?

Adolygiad yw hwn o ffiniau ein dosbarthiadau etholiadol a’u mannau pleidleisio.  Ei bwrpas yw sicrhau bod gan etholwyr gyfleusterau rhesymol er mwyn pleidleisio, sy’n ystyried anghenion yr holl etholwyr.  O dan adran 18C Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae’n rhaid cynnal yr adolygiad gorfodol nesaf o fewn cyfnod o 16 mis rhwng 1 Hydref 2023 a 31 Ionawr 2025.

Nod yr Adolygiad


Ein bwriad yw sicrhau bod gan yr holl etholwyr gyfleusterau rhesymol er mwyn pleidleisio. Rydym hefyd yn ceisio sicrhau, cyn belled ag sy'n ymarferol, fod mannau pleidleisio yn hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Rydym yn awyddus i gael mannau pleidleisio hygyrch a chyfleus gan fod y rhan fwyaf o bleidleiswyr yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Gall hyn yn ei dro gynorthwyo i annog etholwyr i ddefnyddio eu pleidlais ar ddiwrnodau etholiad.

Hysbysiad ynglŷn ag Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (conwy.gov.uk)

Diffiniadau

  • “Dosbarthiadau pleidleisio” yw ardaloedd etholiadol daearyddol y mae wardiau ac etholaethau yn cael eu rhannu iddynt.
  • “Mannau pleidleisio” yw adeiladau neu ardaloedd sydd wedi’u dynodi gan y Cyngor lle gall etholwyr mewn dosbarth pleidleisio fynd i bleidleisio.
  • “Gorsafoedd pleidleisio” yw’r nifer o ddesgiau cyflwyno sydd yn yr adeilad neu’r ardal lle mae’r man pleidleisio.

Amserlen yr Adolygiad

Gweler amserlen yr adolygiad isod:

Adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio 2023
CamPryd
Gwaith paratoi Wedi dechrau ym mis Awst 2023 
Penderfyniad gan y Cyngor yn caniatáu dechrau’r adolygiad 19 Hydref 2023
Adolygiad rhagarweiniol - gan gynnwys ymgynghoriad anffurfiol Gorffennaf - 19 Hydref 2023 
Cyhoeddi hysbysiad o adolygiad Dydd Iau 19 Hydref 2023 
Cyhoeddi cynigion y Cyngor Dydd Iau 19 Hydref 2023 
Dechrau'r ymgynghoriad ffurfiol Dydd Iau 19 Hydref 2023 
Diwedd yr ymgynghoriad ffurfiol Dydd Gwener 10 Tachwedd 2023 
Ystyried ymatebion a pharatoi’r cynigion terfynol Erbyn 30 Tachwedd 2023 
Cyhoeddi’r gofrestr etholiadol 1 Rhagfyr 2023
Cyfarfod y Cyngor 7 Rhagfyr 2023
Cwblhau’r adolygiad Erbyn diwedd Rhagfyr 2023 
Ailgyhoeddi’r gofrestr etholiadol (os bydd unrhyw ddosbarthiadau pleidleisio newydd neu ddiwygiedig) 12 Ionawr 2024
Etholiadau wedi’u trefnu yn ôl y cynllun dosbarthiadau, mannau a gorsafoedd pleidleisio newydd (Comisiynwyr Heddlu a Throsedd) 2 Mai 2024

 

Mannau pleidleisio presennol

Cliciwch yma i weld rhestr o’r dosbarthiadau a’r mannau pleidleisio ar gyfer pob rhanbarth etholiadol sydd dan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Ymgynghoriad

Daeth yr ymgynghoriad ffurfiol i ben ar 10 Tachwedd 2023.

end content