Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Mae Casgliadau Sbwriel bob 4 wythnos yn rhoi hwb i ailgylchu ar draws Conwy

Mae Casgliadau Sbwriel bob 4 wythnos yn rhoi hwb i ailgylchu ar draws Conwy


Summary (optional)
start content


Mae ailgylchu yng Nghonwy wedi cynyddu ers i gasgliadau gwastraff bob pedair wythnos gael eu cyflwyno ar draws y sir ar ddiwedd mis Medi. Mae’r gwasanaeth newydd wedi rhoi ailgylchu yn ganolbwynt casgliadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mae’r manteision eisoes yn amlwg.  Mae Conwy bellach yn ailgylchu mwy nag erioed ac yn anfon llai i safle tirlenwi.

Mae ffigyrau sy’n cymharu’r 3 mis diwethaf o 2018 gyda’r un cyfnod yn 2017 yn dangos bod ailgylchu gwastraff tŷ i fyny 11.5% gyda 363 tunnell ychwanegol o ailgylchu, tra bod sbwriel i lawr 457 tunnell, gostyngiad o 12%.

 “Mae’r ymateb gan y gymuned wedi bod yn ardderchog”, meddai’r Cyng. Donald Milne, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau. “Mae trigolion Conwy yn hynod frwdfrydig i ailgylchu. Maent yn gwybod bod yna fanteision lleol a byd eang i ailgylchu gymaint ag y gallant a thrwy wneud y mwyaf o gasgliadau wythnosol, maent eisoes yn cael effaith. Mae mwy o eitemau fyddai fel arfer wedi cyrraedd safle tirlenwi nawr yn cael defnydd a gwastraff bwyd yn cael ei ddefnyddio i greu trydan adnewyddadwy a gwrtaith ar gyfer tir ffermydd lleol.

Mae’r gwastraff ychwanegol sydd wedi’i ailgylchu yn y tri mis cyntaf o’r cynllun yn golygu bod 3,523 tunnell o bapur, cerdyn, gwydr, plastig, meter, tecstilau, trydan a bwyd wedi eu harbed o safle tirlenwi, ynghyd â 227 tunnell o glytiau a chynnyrch anymataliaeth.

Mae trigolion Conwy eisoes yn cefnogi’r cynllun.  Mae’n braf gwybod bod ymdrechion pob tŷ wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’r gwastraff bwyd ychwanegol wedi creu digon o ynni i ferwi tegell ym mhob cartref yng Nghonwy 10 gwaith. Ac mae poteli plastig, papur a thuniau wedi eu troi’n rhywbeth defnyddiol yn hytrach na’u claddu yn y ddaear” meddai.

Mae trigolion wedi bod yn ailgylchu mwy i sicrhau bod yna ddigon o le yn eu biniau sbwriel. Mae 363 tunnell ychwanegol yn gyffredinol wedi’i ailgylchu o’i gymharu â’r un amser y llynedd ac mae trigolion wedi gofyn am fwy o finiau a bocsys ailgylchu.

 “Gall newidiadau gymryd amser i setlo, ond mae’r Cyngor yma i helpu gyda chyngor ymarferol a chefnogaeth ychwanegol os bydd angen", ychwanegodd y Cyng. Milne.

Nodyn i olygyddion

  • Dechreuodd casgliadau bob 4 wythnos ar draws y sir ar 24 Medi 2018. Roedd casgliad bob tair wythnos ar draws y rhan fwyaf o’r sir cyn hynny, gyda 10,000 o dai yn rhan o dreial 4 wythnos. 
  • Mae ffigyrau a ddyfynnwyd yn cymharu Hyd-Rhag 2017.

Ailgylchu– gostyngiad o 456.76 tunnell, 12% i lawr ers 2017
Ailgylchu –cynnydd o 362.61 tunnell, 11.5% i fyny ers 2017
Ailgylchu clytiau a chynnyrch anymataliaeth – 227.1 tunnell wedi’i gasglu (heb ei ailgylchu yn 2017)

  • Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno casgliadau sbwriel yn DYDDIAD Roedd sbwriel tŷ yn cael ei gasglu bob pythefnos cyn hynny.

Gwastraff–gostyngiad o 1367.78 tunnell, 30% i lawr o’i gymharu â chasgliadau bin bob pythefnos yn Hyd –Rhag 2015
Ailgylchu–cynnydd o 317.4 tunnell, neu 10% i fyny o'i gymharu â Hyd –Rhag 2015

end content