Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Polisïau a Chanllawiau Gwastraff ac Ailgylchu

Polisïau a Chanllawiau Gwastraff ac Ailgylchu


Summary (optional)
Yn yr adran hon, gallwch ddysgu mwy am y polisïau sy'n arwain gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Conwy.
start content

Polisi Dim Gwastraff Ychwanegol a Chaead Wedi Cau

Bydd criwiau casglu yn casglu sbwriel sydd ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. Ni fyddant yn casglu:

  • bagiau neu eitemau ychwanegol sydd wrth ymyl y bin ar olwynion
  • biniau ar olwynion sydd wedi’u gorlenwi ac nad oes modd cau’r caead yn iawn.

Os oes gennych wastraff ychwanegol neu os na fydd y caead ar eich bin ar olwynion yn cau yn iawn oherwydd bod gormod o wastraff, ewch â’r gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Canllawiau Ail Fin

Yn gyffredinol, mae pob aelwyd yn cael un bin ar olwynion 240l. Ond mae achosion penodol lle gall cartref gael ail fin ar olwynion.

Os oes gennych 6 neu fwy o bobl yn byw yn eich aelwyd, gallwch wneud cais am ail fin ar olwynion cyn belled eich bod yn ailgylchu’r cyfan y gallwch chi. Byddwn yn gofyn am eich amgylchiadau a gwirio eich bod yn gymwys pan eich bod yn ymgeisio am ofod bin ychwanegol.

Os oes llai na 6 o bobl yn byw yn yr aelwyd, bydd yr ail fin yn cael ei symud oddi yno.

Gall pob aelwyd wneud cais am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a Pholisi Trwydded Faniau

Gall holl drigolion Conwy ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre ac Abergele i gael gwared ar wastraff cartref a deunyddiau i’w hailgylchu yn ddiogel ac yn gyfleus.

Er mwyn atal masnachwyr rhag defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn anghyfreithlon, rydym wedi sefydlu cynllun trwyddedu, i sicrhau y gall trigolion ddefnyddio eu cerbydau eu hunain, cerbydau gwaith neu gerbydau wedi’u llogi i ymweld â'r canolfannau.

Os ydych yn berchen ar fan neu gerbyd o fath masnachol nad oes arwydd arni, gallwch wneud cais am Drwydded Fan Ddomestig, sy’n rhoi’r hawl i chi ymweld â'r canolfannau 20 gwaith y flwyddyn.  Os ydych yn berchen ar gerbyd gydag arwydd wedi’i ysgrifennu arni, neu os ydych wedi llogi cerbyd, gallwch wneud cais am drwydded Un-tro, a fyddai'n caniatáu un ymweliad fesul trwydded. Galwch wneud cais am ddwy drwydded Un-tro y flwyddyn.

Gweler Trwyddedau Faniau a Cherbydau o Fath Masnachol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ar-lein neu lwytho ffurflen gais i lawr.

Os hoffech gysylltu â ni am bolisïau a chynlluniau gwastraff ac ailgylchu, llenwch y ffurflen hon.

end content