Mae Grant Cefnogi Busnes Conwy (CBSG) yn grant dewisol i gefnogi twf Busnesau, Mentrau Cymdeithasol (sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol) neu brosiectau arallgyfeirio ffermydd yng Nghonwy.
Bydd y gronfa yn galluogi darparu grantiau i gefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd trwy gyflawni ystod o brosiectau datblygu busnes.
Er mwyn cael ei ystyried, mae’n rhaid i’ch prosiect allu dangos pa ganlyniadau a gyflawnwyd o ganlyniad i’r datblygiad busnes, megis:
- cynyddu trosiant
- creu swyddi
- mentrau carbon isel
- cynnyrch neu wasanaethau newydd
- datblygu sylfaen cwsmeriaid newydd
- cynyddu proffidioldeb
- cynaliadwyedd busnes
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cymorth buddsoddi, mae’n rhaid i fusnesau gael eu lleoli a’u gweithredu yn Sir Conwy, wedi bod yn masnachu dros 6 mis ac wedi cofrestru gyda CaThEF.
- Mae'r cynllun yn cynnig cyllid o HYD AT 50% ar wariant cyfalaf a/neu refeniw cymwys ar gyfer prosiectau, gyda dyfarniadau o £500 hyd at £15 00 yn cael eu cynnig.
- Mae'r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i'r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn y cyfnod penodol.
- NI all busnesau sydd wedi derbyn cyllid drwy’r CBSG yn flaenorol gyflwyno cais eto o fewn tair blynedd o ddyddiad derbyn y cyllid.
- Mae’n rhaid i’r Busnes fod yn brif ffynhonnell gyflogaeth / incwm i chi (mwy na 25 awr yr wythnos).
Gellir rhoi ystyriaeth i geisiadau os bydd y prosiect yn arwain yn uniongyrchol at y busnes yn dod yn brif gyflogaeth i chi o fewn cyfnod y cyllid.
Bydd ceisiadau'n cael eu gwneud drwy’r ffurflen ar-lein. Ynghyd â’r ffurflen gais bydd angen nifer o ddogfennau ategol eraill.
Darllenwch y ddogfen ganllaw yn llawn i sicrhau bod yr holl wybodaeth ynghlwm cyn cyflwyno’r cais.
Canllawiau a ffurflenni:
Mae'r cynllun grant hwn yn ddewisol a bydd yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i'r felin, yn dibynnu ar argaeledd arian a’r gallu i gwblhau'r prosiect o fewn y cyfnod penodol.
Ni ystyrir fod ceisiadau wedi eu cyflwyno’n llawn hyd nes bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen wedi ei derbyn.
Gofynnir i chi siarad ag aelod o’r Tîm Cymorth Busnes cyn cyflwyno unrhyw gais. I siarad ag aelod o’r tîm, anfonwch neges e-bost at business@conwy.gov.uk.