Root Cartref Cyngor Argyfyngau Sifil Posibl
start content

Mae’r Cyngor yn paratoi at argyfwng drwy asesu’r risgiau, gwneud cynlluniau, hyfforddi staff, rhoi gwybod a chynghori’r cyhoedd a busnesau a drwy weithio gyda’r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill.

Mae gwaith cynllunio at argyfwng manwl ar gynlluniau ymateb y Cyngor yn cael ei wneud gan aelodau o grwpiau traws swyddogaethol o fewn y Cyngor.  Fodd bynnag mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio gydag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru i gefnogi a chyfrannu tuag at gynlluniau aml-asiantaeth ac mae’n aelod o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd sy’n cynorthwyo i gydlynu a chydweithredu ar lefel leol i gryfhau cynlluniau ac ymatebion.

Mewn argyfwng mawr, bydd y Cyngor yn cefnogi ac yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, asiantaethau a gwirfoddolwyr ac yn darparu cefnogaeth dechnegol ac adnoddau. Dyma rai enghreifftiau:

  • darparu llety dros dro
  • canolfannau bwyd / gorffwys mewn argyfwng
  • gwasanaethau cymdeithasol a lles
  • materion amgylcheddol
  • materion traffig a pheirianneg saernïol
  • darparu mannau cadw cyrff a mortiwari dros dro mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru a’r Crwner.

Gogledd Cymru - Paratoi ar gyfer argyfyngau (PDF)

Mae deddfwriaeth arall yn bodoli sy’n sefydlu cyfundrefnau cynllunio at argyfwng aml-asiantaeth mewn cydweithrediad gyda rheolwyr safleoedd ac mae’r rhain yn cynnwys:

 

end content