Sut alla i ddod i wybod pa bryd mae cyfarfodydd y Cyngor a'i bwyllgorau a'i gyrff yn digwydd?
Mae’r Cyngor yn cyhoeddi hysbysiadau am gyfarfodydd y Cyngor Llawn a’i bwyllgorau. Gallwch wybod mwy am ofynion hysbysiad yn adran 15 o’r Cyfansoddiad.
Mae’r Cyngor yn cyhoeddi hysbysiadau am gyfarfodydd a rhaglen o gyfarfodydd i ddod.
Sut gallaf wybod beth fydd yn cael ei drafod mewn cyfarfod penodol?
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhaglenni cyfarfodydd, ynghyd ag unrhyw bapurau cefndir ac adroddiadau ymlaen llawn cyn cynnal y cyfarfod. Mae cyfarfodydd hefyd yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio.
A wyf yn gallu gofyn i bwyllgor neu gorff o’r Cyngor edrych ar fater penodol?
Mae protocol ymgysylltiad cyhoeddus trosolwg a chraffu wedi'i sefydlu i ddarparu dealltwriaeth glir a darparu arweiniad ar y weithdrefn y gall aelodau'r cyhoedd ei defnyddio i ymgysylltu â gwaith y Cyngor.
Gallwch hefyd anfon deisebau at y Cyngor yn defnyddio cynllun deiseb y Cyngor. Mae’n ofynnol i’r Cyngor yn unol â’r gyfraith i weithredu deiseb, sy’n nodi:
- sut i gyflwyno deiseb i'r Cyngor;
- sut a phryd y bydd y Cyngor yn cydnabod eu bod wedi derbyn y ddeiseb;
- y camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb; a
- sut ac erbyn pryd y bydd y Cyngor yn sicrhau bod ei ymateb i ddeiseb ar gael i'r sawl a gyflwynodd y ddeiseb ac i'r cyhoedd.
Gallwch ddarllen mwy am gyflwyno deiseb i’r Cyngor yn adran 24.1 o’r Cyfansoddiad.
A wyf yn gallu mynychu cyfarfodydd y Cyngor Llawn?
Mae aelodau o’r cyhoedd yn gallu mynychu cyfarfodydd o’r Cyngor cyn belled â’u bod yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae cyfarfodydd o’r Cyngor hefyd yn cael eu darlledu yn fyw ar wefan y Cyngor felly gallwch eu gwylio mewn amser real o bell os byddwch yn dymuno.
Mae’r Cyngor hefyd yn gallu eithrio’r cyhoedd o gyfarfod, neu ran o gyfarfod, ble byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu. Mae gwybodaeth eithriedig yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn penodol neu eu materion busnes neu ariannol, gwybodaeth gyfreithiol freintiedig neu wybodaeth sy’n ymwneud ag atal, ymchwilio neu erlyn trosedd neu wybodaeth arall a nodir yn y Cyfansoddiad.
Mae’r rheolau sy’n ymwneud â gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod wedi eu cynnwys yn adran 15.10 o’r Cyfansoddiad.
Mae rhwymedigaeth y Cyngor i ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor wedi’i nodi yn adran 24.2 o’r Cyfansoddiad.