Mae Conwy yn ymrwymedig i wella cysylltedd digidol ar draws y sir fel rhan o’i Strategaeth Ddigidol. Er nad ydym yn darparu nac yn gweithredu rhwydweithiau band eang neu symudol, rydym yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol i helpu i wella isadeiledd digidol a mynediad at wasanaethau.
Mae cyfrifoldeb dros fuddsoddiad mewn rhwydweithiau band eang a symudol ar ddarparwyr telathrebu masnachol a rhaglenni a gaiff eu hariannu gan y llywodraethu. Fodd bynnag, rydym yn cefnogi mentrau sydd â’r nod o wella cysylltedd i breswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws Conwy.
Mae ein gweithgareddau’n cynnwys:
- Cefnogi estyn cwmpas rhwydweithiau band eang a symudol ffibr cyflym.
- Ceisio cyfleoedd ariannu i wella mynediad Wi-Fi cyhoeddus a hybu cynhwysiant digidol.
- Cefnogi datblygiad isadeiledd digidol a thechnoleg sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys y Rhyngrwyd Pethau a rhwydweithiau LoRaWAN.
- Gweithio gyda darparwyr telathrebu, rhaglenni’r llywodraeth a phartneriaid rhanbarthol, gan gynnwys Uchelgais Gogledd Cymru, i nodi meysydd lle gallai fod angen buddsoddi yn y dyfodol.
Gwirio Argaeledd Band Eang
I weld pa wasanaethau band eang sydd ar gael yn eich cyfeiriad, nodwch eich cod post yng Ngwiriwr Ffibr Openreach.