Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych


Summary (optional)
start content

Pwrpas

Ym mis Ebrill 2016, sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fwrdd statudol, a elwir yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.  Mae Conwy a Sir Ddinbych wedi defnyddio grym o fewn y Ddeddf i uno eu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn un BGC ar gyfer rhanbarth Conwy a Sir Ddinbych.

Mae'r BGC yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy’n cydweithio i wella lles eu sir.  Mae hyn yn golygu fel grŵp bod yn rhaid i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardal Conwy a Sir Ddinbych drwy weithio i gyflawni’r 7 nod Lles isod:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru wydn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynol
  • Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus
  • Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang

Mae gan y BGC bedair prif dasg i ddechrau:

  • Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Conwy a Sir Ddinbych.
  • Paratoi a chyhoeddi Cynllun Lles Lleol ar gyfer siroedd Conwy a Dinbych gan gynnwys amcanion lleol a'r camau mae'n bwriadu eu cymryd i'w diwallu.
  • Cymryd pob cam rhesymol i ddiwallu’r amcanion lleol.
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi cynnydd y Bwrdd o ran diwallu’r amcanion lleol. 

Egwyddorion

Datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor gweithgareddau BGC Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn golygu gweithredu mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau fod anghenion presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Aelodau

Ein haelodau statudol ar y bwrdd yw:

Ein partneriaid eraill yw:

Newyddlen

Mae BGC Conwy a Sir Ddinbych yn canolbwyntio ar wella ei ddulliau cyfathrebu ac mae diweddariadau hyn wedi’u gynhyrchu i’ch hysbysu am yr hyn y mae’r bwrdd wedi bod yn ei wneud hyd yma a beth sydd ganddo ar y gweill dros y misoedd nesaf – www.conwyanddenbighshirelsb.org.uk/newsletters

Cysylltu

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar http://conwyanddenbighshirelsb.org.uk/

end content