Mae disgwyl i Gyngor Bwrdesitref Sirol Conwy, fel pob cyngor arall yng Nghymru, gydymffurfio â'r Safonau Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg (gellir eu gweld isod).
Mae'r Safonau hyn yn dod o dan y categorïau a ganlyn: Cyflenwi Gwasanaethau, Gweithredu, Llunio Polisi, Hybu, Cadw Cofnodion.
Mae'r dyletswyddau sy'n deillio o'r safonau yn golygu na ddylai sefydliadau, fel y Cyngor, drin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ynghyd â hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg (gan ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd) .
Bwriad y Safonau yw:
- rhoi mwy o eglurder i sefydliadau ar eu dyletswyddau am yr Iaith Gymraeg
- rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg am y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg
- sicrhau mwy o gysondeb o wasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawdd.
Mae'r Safonau Cymraeg yn disodli Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor a gymeradwywyd gyntaf gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 23 Gorffennaf 1997, ac a ddiwygiwyd ar 14 Mai 2004 ac yna ar 23 Ebrill 2009.