Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Rhaglen Ddigidol Conwy a'r Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (FFFN)

Rhaglen Ddigidol Conwy a'r Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (FFFN)


Summary (optional)
start content

Ffeibr Llawn Conwy

Cofrestrwch i fynegi diddordeb mewn i cael band eang gwell

 

cbd-c

Gwella cysylltedd digidol

Gwella cysylltedd digidol yw un o’r blaenoriaethau pennaf i gymunedau yng Nghonwy, yn enwedig cymunedau mewn ardaloedd gwledig. Bydd gwell cysylltedd digidol yn cefnogi datblygiad economaidd, addysg, gofal cymdeithasol a hyd yn oed  yn rhoi atebion hirdymor i ddarpariaeth gofal iechyd.

Bwrdd Conwy Ddigidol

Mae sawl rhaglen a phrosiect sy’n canolbwyntio ar wella cysylltedd digidol yng Nghymru.  Y bwrdd sy’n rheoli hyn yma yw Bwrdd Conwy Ddigidol.

Bydd y rhaglen LFFN y ysgogi buddsoddiad masnachol mewn rhwydweithiau ffibr llawn ar draws y DU i gyd, gan gynnwys lleoliadau gwledig a threfol gan ddefnyddio strategaethau sy’n annog buddsoddiad preifat ac yn ei gwneud yn bosibl i leoli busnesau masnachol cynaliadwy yma.

Cronfa Her LFFN

Mae’r Gronfa Her LFFN ar gael ar gyfer prosiectau sy’n creu’r amodau a fydd yn sbarduno mwy o fuddsoddiad masnachol er mwyn darparu mwy o gysylltedd gigabit-alluog ac i wneud y mwyaf o argaeledd a manteision gwasanaethau band eang gigabit-alluog ar gyfer y sector cyhoeddus,  busnesau a defnyddwyr preswyl ac i wella amodau buddsoddi masnachol mewn ardaloedd lleol, er enghraifft i wella’r achos busnes ar gyfer y farchnad er mwyn darparu mwy o fand eang gigabit-alluog.

Helpu ein heconomi i ffynnu

Bydd LFFN yn creu isadeiledd digidol lleol er mwyn i’r economi ffynnu ac i ddinasyddion gael y cysylltedd angenrheidiol yn y dref ac mewn ardaloedd gwledig fel ei gilydd gan ddefnyddio’r arian sydd ar gael gan yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Y Safleoedd Arfaethedig

Mae’r safleoedd arfaethedig ar gyfer Gogledd Cymru wedi eu cyflwyno i DCMS.  Yng Nghonwy mae’r rhain yn cynnwys canolfannau meddygon teulu ac adeiladau Cynghorau Tref a Chymuned. Bydd manylion ynglŷn pryd y cynhelir arolygon safle a phryd y bydd y gwaith gosod dilynol yn digwydd yn cael eu rhyddhau yn fuan.

Mae’r prosiect Rhanbarthol yn cael ei weld fel y model ar gyfer rhoi’r prosiect ar waith ar draws y DU ac mae’n cael ei reoli gyda cherrig milltir safonol yn seiliedig ar amserlen o arolygon safle a gosod a fydd yn para am 2 flynedd gan ddod i ben ym mis Mawrth 2021.

Cysylltwch â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiad neu gyswllt am y prosiect LFFN yng Nghonwy anfonwch e-bost at - LFFN@conwy.gov.uk     

end content