Mae diwallu anghenion tai yn Sir Conwy yn dod yn fwyfwy anodd a’r disgrifiad gorau o’r sefyllfa yw "argyfwng tai".
Mae Strategaeth Tai Lleol Conwy 2018-23 yn datgan mai ein gweledigaeth yw i bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy, priodol ac o safon dda sy’n gwella ansawdd eu bywydau. Rydym eisiau adeiladu mwy na thai, rydym eisiau creu cymunedau cynaliadwy y mae pobl yn falch o’u galw yn gartref.
Canlyniad 4 yng Nghynllun Corfforaethol 2022-27: Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywyd.
Oherwydd bod yr her o ran Tai yn un sylweddol, bydd angen ymrwymiad a chefnogaeth nifer o wahanol wasanaethau ar draws y Cyngor er mwyn cyflawni amcanion y Strategaeth Tai Lleol a’r Cynllun Corfforaethol. Megis y cyflenwad tai, polisi tai, grantiau tai a safon tai.
Mae’r Rhaglen Tai a Digartrefedd wedi’i sefydlu i gyflawni’r amcanion a sicrhau bod cefnogaeth ar draws y Cyngor a Phartneriaid Allanol.