Cyfeirnod Grid: SH 667745.
Mae'n hawdd cyrraedd Glan y Môr Elias o Lanfairfechan, dim ond taith gerdded fer tua'r gorllewin ar hyd y promenâd. Mae golygfeydd helaeth yno, ac mae'n lle deniadol iawn i adar môr ddod i glwydo. Ewch â telesgop efo chi os gallwch, ac os byddwch yn ffodus efallai gwelwch rai o'r rhywogaethau prin o drochyddion a gwyachod ar draethell lleidiog Traeth Lafan gerllaw, sydd yn ardal o bwysigrwydd Ewropeaidd. Yn ychwanegol, mae Traeth Lafan, Glan y Môr Elias a Morfa Madryn, ar y cyd, yn ffurfio Gwarchodfa Natur Leol.
Mae Partneriaeth Cadwraeth Arfordir Gogledd Cymru wedi cyhoeddi taflen sy'n disgrifio gwarchodfeydd arfordir Gogledd Cymru rhwng Caernarfon a Chonwy, gan gynnwys Glan y Môr Elias. Cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am y daflen hon ac am daflenni Cefn Gwlad eraill.
Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.
Cyhoeddiadau Cefn Gwlad
Y Côd Cefn Gwlad
Llwybr Gogledd Cymru