Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Glan y Môr Elias


Summary (optional)
Taith gerdded ar hyd y promenâd o Lanfairfechan - gallwch fwynhau golygfeydd godidog o’r machlud, yr arfordir a’r Carneddau. Lleoliad gwych i wylio adar drwy gydol y flwyddyn.
start content

Pam ymweld?

  • Bywyd gwyllt unigryw
  • Taith gerdded gylchol fflat a hawdd
  • Meinciau i gael seibiant


Mae Gwarchodfa Natur Leol Glan y Môr Elias yn forfa heli deinamig a thraethell gymhleth ac mae'n gartref i amrywiaeth eang o blanhigion gwarchodedig, adar gwyllt a rhydwyr.

Mae glaswelltir y warchodfa yn ardal bwysig i beillwyr ac yn hafan ddiogel i adar sy’n nythu ar y tir, y mae eu poblogaethau’n dirywio.

Allan ar y môr, mae’r traethellau lleidiog eang yn rheswm pwysig pam bod adar prin yn heidio i’r rhan hwn o’r arfordir. Mae traethellau lleidiog Traeth Lafan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ewch am daith gerdded gylchol fer i edmygu’r ddrysfa nodweddiadol o sianelau morfa heli.

Cadwch at y llwybrau ac oddi ar ymyl y morfa heli neu’r cerrig mân – mae’n bwysig peidio poeni’r adar a gwneud iddynt godi hediad, gan ddefnyddio egni gwerthfawr. Maent yn brysur yn gorffwys ac yn nythu yn y gaeaf ac yn magu yn yr haf.

Mae’r holl draethlin a’r warchodfa yn cael eu pori ar adegau penodol. Bydd yr arwyddion ym mynedfa’r warchodfa yn rhoi gwybod i chi pa anifeiliaid sy’n pori a phryd.

Cadwch gŵn ar dennyn neu’n agos iawn atoch chi. Mae cŵn sy’n rhedeg yn rhydd yn gallu lladd da byw ac adar drwy achosi trallod.

Pam ei fod yn arbennig?


Mae’r gwlyptiroedd arfordirol hyn yn darparu dalfeydd carbon hanfodol sy’n helpu i storio carbon a gweithio yn erbyn cynhesu byd-eang. Mae’r gwaddod cyfoethog hefyd yn darparu maetholion i lu o greaduriaid rhyfedd.

Mae’r perthnasoedd cymhleth yn yr ecosystem unigryw hon i’w gweld o flaen eich llygaid bob dydd â phob llanw.

Darganfod bywyd gwyllt


Yn y gaeaf, edrychwch allan am nifer fawr o chwiwellod yn chwibanu, ynghyd â haid lai o gorhwyaid yn bwydo ar y forfa heli. Mae hyd at 5000 o biod y môr yn clwydo ar lanw uchel. Yn yr haf, mae’r môr-wenoliaid pigddu aflafar yn clwydo ac yn plymio heibio. Byddwch hefyd yn clywed galwad nodweddiadol yr ehedydd – aderyn sy’n nythu ar y ddaear ac yn rhywogaeth warchodedig.

Beth am lawlwytho ein canllaw am ddim ar adnabod adar yn y gwlptiroedd?

Sut i gyrraedd yma

Cerdded a beicio

Mae Glan y Môr Elias yn daith gerdded fer neu daith feicio ar hyd promenâd Llanfairfechan i’r gorllewin.

Clydiant cyhoeddus

Mae gorsaf drenau Llanfairfechan yn arhosfan ar gais ac mae gerllaw'r safle gyda mynediad drwy'r promenâd. Hefyd mae yna fysiau lleol rheolaidd sy’n stopio yng nghyffordd Ffordd yr Orsaf, sydd 5 munud ar droed o'r traeth.

Gyrru

Ewch ar yr A55 i gyffordd 14 neu 15 am Lanfairfechan. Dilynwch y brif ffordd i’r groesfan â goleuadau traffig. Trowch i lawr Ffordd yr Orsaf i faes parcio’r promenâd (LL33 0BY).

Cyfleusterau

  • Toiledau cyhoeddus ar y promenâd (codir tâl)
  • Caffis ar y traeth
  • Lle i barcio ceir ar y promenâd (LL33 0BY)
  • Paneli dehongli gyda gwybodaeth am fywyd gwyllt
  • Meinciau ar y safle er mwyn cael seibiant


Safleoedd Gerllaw


Gellir cyrraedd Tyddyn Drycin, un o’n coetiroedd, drwy daith fer yn y car neu ar feic i Lanfairfechan drwy Ffordd Penmaenmawr oddi ar yr A55. Neu ewch i dop y pentref i Nant y Coed, un arall o’n coetiroedd.

Gallwch gael gwybodaeth am lwybrau cerdded ar gyfer Glan y Môr Elias, Tyddyn Drycin a Nant y Coed yn y daflen teithiau cerdded Llanfairfechan.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)

Pam ymweld?

  • Unique wildlife
  • Easy flat circular walk
  • Benches for rests


Glan y Môr Elias Local Nature Reserve is a dynamic saltmarsh and shingle spit, home to a wide variety of protected plants, wildfowl and waders.

The reserve’s grassland is an important area for pollinators and a safe haven for ground nesting birds, whose populations are in decline.

Out to sea, the expanse of mudflats is an important link to why rare birds flock to this part of the coast. Traeth Lafan mud flats is a Site of Special Scientific Interest.

Take a short circular walk, and admire the characteristic maze of saltmarsh channels.  Please keep to the paths and away from the saltmarsh edge or shingle – it’s important not to stress the birds and make them take flight, using up valuable energy.  They are busy resting and roosting in the winter and breeding in the summer.

The whole shoreline and reserve is grazed at certain times.  Signage at the reserve entrance will update you about what animals are grazing and when.

Keep dogs on a lead or close at heel.  Dogs running free can kill livestock and birds by causing distress.

Why is it special?


These important coastal wetlands provide us with vital carbon sinks, helping to store carbon and counteract global warming. The rich sediment also provides nutrients to a host of strange critters.

The complex relationships within this unique ecosystem are playing out in front of you each day with each tide.

Discover the wildlife


In winter, look out for large numbers of whistling wigeon, together with smaller flocks of teal feeding on the saltmarsh. Up to 5000 oystercatchers roost at high tide.In summer, the raucous sandwich tern roost and swoop by. You’ll also hear the distinctive call of the skylark – a ground nesting bird and protected species.

Why not download our free wetland spotters guide?

How to get there

Walking & cycling

Glan y Môr Elias is a short walk or cycle, West, along from the Llanfairfechan promenade.

Public transport

Llanfairfechan train station is a request stop and is next to the site with access via the promenade. There are also regular local busses which stop at the Station Road junction, a 5 minute walk to the beach.

Driving

Follow the A55 to junction 14 or 15 for Llanfairfechan. Follow the main road to the crossroads with traffic lights. Take the turning down Station Road to to the promenade car park (LL33 0BY).

Facilities

  • Public toilets on the promenade (charged)
  • Beach front cafes
  • Car parking at the promenade (LL33 0BY).
  • Interpretation panels with information about wildlife
  • Benches on site for rest stops


Nearby Sites


Tyddyn Drycin, one of our woodland sites, is just a short drive or bike ride away into Llanfairfechan via Penmaenmawr Road off the A55. Or head up to the top of the village to Nant Y Coed, another of our woodland sites.

You can find walk route information for Glan y Môr Elias, Tyddyn Drycin and Nant y Coed in the Llanfairfechan Walks leaflet.

end content