Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn


Summary (optional)
 
start content

Cyfeirnod Grid: SH 832798

Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-rhos, efo golygfeydd da o'r copa. Arno mae cymysgfa dda o laswelltir a choetir, efo rhan ohono yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Hefyd mae o ddiddordeb hanesyddol mawr, efo Llys Euryn - tŷ yn dyddio o'r 15ed ganrif - a chaer o'r 6ed ganrif ar ben y bryn. Mae rhwydwaith da o lwybrau yn ei wasanaethu, yn cynnwys Llwybr y Copa, sy'n cysylltu Llys Euryn a'r gaer ar y copa.

Mae taith gylch wedi ei harwyddo drwy'r coed. Mae taflen ar gael i'ch helpu i archwilio'r ardal sy'n rhoi gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y lle.

end content