Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ddôl Bach, Llanfair Talhaiarn


Summary (optional)
Wedi’i leoli yng nghanol Llanfair Talhaiarn, efallai bod Ddôl Bach yn fach ond mae’n lleoliad perffaith i eistedd a gwylio bywyd gwyllt ar lan yr afon.
start content

Pam ymweld?

  • Golygfeydd o’r afon
  • Gwylio bywyd gwyllt

Mae Ddôl Bach wrth ymyl yr afon Elwy. Ardal o laswelltir agored gyda phwll dŵr bach a choetir sy’n aeddfedu, mae’n gynefin gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt.

Pa fywyd gwyllt fyddwch chi’n ei ganfod?

Tra’n eistedd ar y fainc ar lan yr afon, efallai y byddwch yn cael cipolwg ar las y dorlan lliwgar yn bwydo oddi ar ganghennau’r coed helyg sy’n hongian yn isel.

Dilynwch y llwybr drwy Ddôl Bach i ddarganfod blodau gwyllt fel clust y gath, dant y llew, gorthyfail a’r blodyn neidr.

Mae dangosyddion coetir hynafol, garlleg gwyllt a chlychau’r gog brodorol yn eich croesawu gyda blodau’r gwanwyn ar y clawdd coediog uchaf.

Mae amrywiaeth o goed a blannwyd yn 2000 fel rhan o gynllun gwella amgylcheddol yn cyfannu’r coed derw hŷn lled-aeddfed ar y clawdd coediog uchaf.

Mae’r dderwen ddigoes a’r dderwen goesynnog gynhenid (pendunculate) yn cefnogi mwy o fywyd nag unrhyw goeden gynhenid arall ac mae’n gartref i dros 250 o rywogaethau o bryfed. Mae’r rhisgl gweadog yn gynefin ar gyfer mwsogl, cen y coed a llys yr afu.  Maer agennau coed marw yn ddelfrydol ar gyfer adar sy’n nythu ac ystlumod sy’n clwydo.  Mae gennym hefyd flychau ystlymod ar rai coed i roi help llaw i’n rhywogaeth yslym cynhenid.

Mae coed eraill sy’n tyfu yn Nôl Bach yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau’r coed helyg, ceirios llwyfen lydanddail, collen, ysgawen a choed ynn cyffredin.

Mae adar bach llawn cymeriad yn cweryla yng nghanol y coed. Gallwch ddisgwyl gweld aderyn dy, aderyn y to, robin goch, titw tomos las, titw mawr a chnocell y coed. 

Mae’r coetir agored a glan yr afon yn Nôl Bach hefyd yn fannau gwych i weld ystlum lleiaf cyffredin 

Mae mamaliaid eraill y byddwch yn eu gweld o bosibl yn cynnwys y wiwer lwyd a llygoden y coed. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth manwl ar y rhywogaethau bywyd gwyllt gwahanol ar wefan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

Gellir dod o hyd i efwr cyffredin yma wrth ymyl y llwybr – cymerwch ofal os ydych yn dioddef gydag alergeddau.

Mae’r danadl poethion yn tyfu’n uchel yma ble mae’r ddaear yn llawn maeth. Er bod llawer yn eu casáu, maent yn cynnig lloches i iâr fach amrylyw a larfa glöyn byw y peunog, sy’n bwydo mewn grwpiau mawr wedi cuddio mewn pebyll sidan ar frig y coesau danadl poethion.

Ar ddiwedd yr haf, mae’r hadau a gynhyrchir yn darparu bwyd i lawer o adar.

Estron Ymledol

Mae gennym frwydr ar ein dwylo i reoli lledaeniad rhywogaeth planhigyn estron ymledol a elwir yn Jac y Neidiwr. Oherwydd bod yr afon Elwy yn gorlifo, mae’r hadau yn hel mewn tomen anferth.  Mae’n tyfu gymaint fel nad ydym yn gallu ei reoli fel yr oeddem drwy godi’r coesau gyda gwreiddyn dwfn a’u gwasgu i atal aildyfiant.  Rydym nawr yn ei dorri ddwywaith y flwyddyn am 3 blynedd yn olynol i geisio torri’r cadarnle. Yn anffodus, wrth wneud hyn mae’n effeithio ar yr holl laswellt a blodau eraill.


Cyfleusterau

  • Meinciau ar lan yr afon ac yn uwch i fyny ar y llwybr troed cyhoeddus
  • Maes parcio am ddim gyferbyn â maes parcio tafarn y Llew Du (LL22 8RT)
  • Toiledau cyhoeddus yn y maes parcio


Caniateir cŵn ar y safle, ond mae’n rhaid eu cadw ar dennyn drwy’r adeg, yn arbennig wrth groesi tir ffermio.  Dylech godi baw ci bob tro.

Darllenwch y cod cefn gwlad  cyn ymweld.


Sut i gyrraedd yno

Cerdded a beicio

O Swyddfa'r Post yng nghanol y pentref, cerddwch ar hyd Stryd y Dŵr tuag at yr afon. Trowch i’r dde ar Lôn yr Ysgol – bydd yr hen bont yn syth o’ch blaen chi. Mae’r safle y cyntaf ar y dde wrth ymyl y bont.

Neu dilynwch y llwybr troed cyhoeddus drwy Sgŵar yr Alarch gyferbyn â Swyddfa'r Post, fydd yn eich arwain chi i’r safle.

Cludiant Cyhoeddus

Y safle bws agosaf i Ddôl Bach yw safle Swyddfa'r Post ym mhentref Llanfair Talhaiarn O’r fan hyn, mae’n cymryd ychydig funudau ar droed gan ddilyn y cyfarwyddiadau cerdded uchod.

Gyrru:

Mae Llanfair Talhaiarn ar yr A5458, sy’n cysylltu Abergele a Llanrwst. Y cod post agosaf i Ddôl Bach yw Sgwâr yr Alarch yng nghanol y pentref: LL22 8RY. Mae yna faes parcio am ddim gyferbyn â thafarn y Llew Du.


Beth sydd gerllaw?

Mae yna sawl llwybr troed cyhoeddus sy’n cynnig teithiau cylchol o’r pentref i fyny ac o amgylch cefn gwlad cyfagos.  Gallwch gael golwg ar ein map rhyngweithiol ar waelod ein tudalen llwybrau troed cyhoeddus  Mae’r llwybrau wedi eu marcio gyda rhifau llwybr troed cyhoeddus.

end content