Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Darganfyddiad Coed Pwllycrochan


Summary (optional)
 
start content

Mae dogfen wybodaeth wedi cael ei chynllunio i fod yn gyflwyniad llawn gwybodaeth i Warchodfa Natur Leol Coed Pwllycrochan.


Mae'r themâu'n cynnwys:

  • Hanes diweddar Pwllycrochan
  • Cynefin coetir, cadwyni bwyd, bywyd gwyllt, rhywogaethau o goed
  • Newidiadau tymhorol ym Mhwllycrochan
  • Rheoli coetir

Isod, ceir map o sut i gyrraedd Coed Pwllycrochan, a map o’r Taith Darganfyddiad ei hun. Mae dogfen Taith Darganfyddiad ar wahân (dogfen sy'n fath o lyfryn 4 tudalen) sydd wedi ei chynlunio i gael ei defnyddio ar y daith ei hun. Mae’r cwestiynau a’r gweithgareddau wedi'u hanelu'n bennaf at blant 7-11 oed.

Mae Nodiadau Canllaw i Athrawon ar y Daith Darganfyddiad yn ddogfen ategol sy'n cynnig yr atebion a nodiadau esboniadol ar gyfer gweithgareddau'r Daith Darganfyddiad.

Mae dogfen ar wahân, Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch, a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Gan ddefnyddio'r Wybodaeth Gefndir ynghyd â'r Nodiadau Canllaw i Athrawon ar y Daith Darganfyddiad a'r Wybodaeth Iechyd a Diogelwch, byddwch yn barod i gynllunio'n llwyddiannus ac arwain eich grŵp yn annibynnol. Rydym ni'n argymell eich bod yn ymweld â'r safle ymlaen llaw er mwyn ymgyfarwyddo â'r safle a'r Daith Darganfyddiad a hyrwyddir.

Map o'r Daith Darganfyddiad

Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch

Taith Darganfyddiad

Nodiadau Canllaw i Athrawon ar y Daith Darganfyddiad

Taflen Ditectif y Daith

Y Côd Cefn Gwlad

end content