Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Safle picnic Dolwyddelan


Summary (optional)
Coetir hyfryd a thawel yng nghanol Dolwyddelan
start content

Pam ymweld?

  • Man picnic
  • Golygfeydd
  • Llwybr cerdded trwy’r coetir

Pentref hardd sy’n gorwedd yn nyffryn Lledr yw Dolwyddelan sydd ag ysbryd cymunedol cryf.   Mae’r orsaf reilffordd yng nghanol y pentref. Mae llinell Dyffryn Conwy yn rhedeg o Flaenau Ffestiniog i Landudno. Yma ym maes parcio rhad ac am ddim yr orsaf, mae meinciau picnic yn eich gwahodd i eistedd a mwynhau’r golygfeydd, yn cynnwys Moel Siabod. Mae gwirfoddolwyr lleol yn gofalu am welyau blodau a phaneli dehongli.

Mae’r ardal picnic bychan yn yr agored, tra bod y coetir bychan sydd yn ei ymyl yn cynnig llwybr cylchol byr mewn cysgod brithiog. Mae’r coetir wedi’i leoli rhwng wal gerrig y ffordd a’r trac rheilffordd.

Pa fywyd gwyllt fyddwch chi’n ei ddarganfod?

Mae llwybr cylchol yn eich tywys heibio coed bedw a choed helyg sydd yn siffrwd yn y gwynt ysgafn. Mae’n sŵn hyfryd yn y cefndir i’r ddryw swnllyd, aderyn du, robin, ji-binc a sgrech y coed.  

Yn ystod picnic ym mis Ebrill, fe welsom ni:

  • Y Fedwen Arian
  • Coeden ynn cyffredin
  • Helyg llwyd
  • Helygen ddeilgron
  • Llwyfenni llydanddail
  • Bresych y cŵn
  • Llysiau’r llwynog
  • Mapgoll
  • Blodyn y gwynt
  • Milfyw

Llwybrau cerdded

O’r maes parcio yma, mae yna sawl llwybr cylchol y gellir eu dewis. Mae rhai ohonynt i’w gweld yma o dan y ‘tab cerdded’. Mae llwybrau beicio’n cael eu hyrwyddo hefyd - Mentor Siabod.

Beth am fynd am dro uwch ben Dolwyddelan trwy ddilyn llwybr cerdded Cwm Penmaen? Mae manylion y llwybr yma i’w gweld ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Sut i gyrraedd yno

Cerdded a beicio

O ganol y pentref, mae safle picnic Dolwyddelan saith munud i ffwrdd ar droed neu ddau funud ar feic, oddi ar yr A470, ar hyd Church Street, Bridge Street. Ar ôl mynd heibio mynedfa’r ysgol gynradd ar eich chwith, trowch i’r dde i faes parcio’r orsaf reilffordd. Cyfeirnod Grid OS: SH 737 521.

Cludiant Cyhoeddus

Y safle bws agosaf yw arhosfan Gwalia yng nghanol y pentref. Oddi yma, mae’r safle saith munud i ffwrdd ar droed.

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael gwybodaeth am orsaf Dolwyddelan.

Gyrru

O Fetws-y-coed, gyrrwch i gyfeiriad y de ar yr A470. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Dolwyddelan a gyrrwch drwy’r pentref. Trowch oddi ar y brif ffordd i Church Street sy’n arwain i Bridge Street.  Ar ôl mynd heibio mynedfa’r ysgol gynradd ar eich chwith, trowch yn syth i’r dde i faes parcio rhad ac am ddim yr orsaf reilffordd.

Mae panel dehongli yn eich croesawu i’r ardal picnic a’r coetir.


Cyfleusterau

  • Mae sawl mainc bicnic i chi ymlacio a bwyta
  • Biniau sbwriel
  • Mae’r toiledau cyhoeddus agosaf, yn cynnwys cyfleusterau hygyrch, yn Swyddfa’r Post Dolwyddelan (cod post LL25 0NJ)

Beth sydd gerllaw?

Mae Castell Dolwyddelan wedi’i leoli ychydig ymhellach i lawr yr A470 o Ddolwyddelan. Fe’i adeiladwyd fel caer i reoli’r bylchau mynydd, ac mae’n sefyll fel cofeb i Dywysog Llywelyn ap Iorwerth, sef rheolwr diamau Gwynedd rhwng 1201 hyd nes ei farwolaeth yn 1240. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cadw.

Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Dewch i Gonwy ynglŷn â llety lleol a llefydd i ymweld â nhw.


Gweler hefyd:
Bygythiadau i’n coetiroedd:

Mae clefyd coed ynn yn afiechyd sy’n effeithio ar goed ynn yn nifer o’n gwarchodfeydd natur, coetir a pharciau llydanddail.

end content