Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Nant y Coed


Summary (optional)
Coetir derw cysgodol hardd sy’n swatio dan gysgod y Carneddau. Ar ei hanterth bydd afon drawiadol Llanfairfechan yn rhuo’n uchel.
start content

Pam dod yma?

  • Coetir hynafol hardd
  • Llwybr glan yr afon
  • Pwll bywyd gwyllt mewn llecyn tawel

Dyma goetir hynafol bychan uwchlaw Llanfairfechan o boptu afon Ddu. Gyda golygfeydd hyfryd, mae’r llwybr yn serth ac yn anwastad mewn mannau a grisiau yma ac acw. 

Mae’r pwll bywyd gwyllt yn lle perffaith i gael picnic a mwynhau’r olygfa hudolus. Pan fo pelydrau’r haul yn disgleirio ar y pwll, gallwch weld y pysgod yn codi i’r wyneb; ac yn saethu o un ochr i’r llall mae gweision y neidr a mursennod.

Mae’r cerrig camu ar ochr uchaf y warchodfa ar gau a does dim llwybr trwodd. Rydym ni’n chwilio am ddatrysiadau a chyllid ar gyfer hyn.

Byddwch yn ofalus wrth ymyl y dŵr – darllenwch God y Glannau.

Hafan Bywyd Gwyllt

Y gwanwyn ydi’r adeg berffaith i ymweld; mae clychau’r gog a phlanhigion brodorol eraill ein coetir hynafol yn werth eu gweld. Mae clychau’r gog a blodau’r gwynt yn tyfu’n dda o dan y coed cyll ac ynn a welwch chi ar y llethr cyntaf ger y fynedfa oddi ar Newry Drive. 

Os codwch yn fore, efallai y clywch chi gôr hyfryd y wawr.  

Ond erbyn dechrau’r haf mae’r coed derw digoes yn llawn dail a’r adar yn anoddach i’w gweld. Efallai y gwelwch chi siglennod llwyd ar yr afon a bwncathod yn hedfan fry uwch eich pen. Mae bysedd y cŵn yn wledd o borffor ar lan yr afon; yn ffynhonnell dda o neithdar i’r gwenyn, mae’n braf eu gwylio yn mynd i mewn ac allan o’r blodau.

Yr hydref ydi’r adeg orau i weld y ffyngau yn ffynnu ar goed marw a hen foncyffion.

Ac yn yr hydref a’r gaeaf mae’r afon ar ei hanterth. Mae cwrs y dŵr yn dal yn cael ei ffurfio ac mae’r creigiau sy’n symud ar waelod yr afon yn gwneud sŵn taranau.

Hanes diweddar

Roedd Nant y Coed yn arfer bod yn rhan o Stad Newry ac yn eiddo i Mr Massey. Cafodd ei ddatblygu at ddibenion hamdden yn 1912, a dyna pryd y crëwyd y pwll pysgod. Mae’r pwll yn edrych yn llawer llai ffurfiol y dyddiau yma, a bellach yn hafan i fywyd gwyllt.

Gwerthwyd y stad yn 1923 a chafodd ei brynu gan y Cyngor Dosbarth Trefol (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heddiw).

Cyfleusterau

  • Mae yna ddecin pren a mainc wrth ymyl y pwll bywyd gwyllt
  • Mae yna le parcio oddi ar Newry Drive (Cyfeirnod Grid SH69473 73968) ac ym mhen draw Valley Road (Cyfeirnod Grid SH 6980 673,586)
  • Mae siopau, caffis a thoiledau cyhoeddus ar gael yng nghanol Llanfairfechan.

Mae croeso i gŵn ar dennyn – defnyddiwch y biniau baw cŵn sydd ar gael ym mynedfa Newry Drive.Mae’n bosibl y dewch chi ar draws defaid coll ar hyd y llwybr, ac mae’r coetir wedi’i amgylchynu gan dir amaethyddol.

Dilynwch y Cod Cefn Gwlad pan fyddwch chi’n ymweld â’n Gwarchodfeydd Natur Lleol. 

Ydi’r llwybr a’r mynediad i’r coetir yma’n addas i mi?

Dim ond ar droed y mae modd cael mynediad at y coetir hwn. Mae’r llwybr yn anwastad, yn arw ac yn serth mewn mannau, a cheir dwy res o risiau.

Sut i fynd yno

Nant y Coed location map

Cerdded a beicio 

mae Nant y Coed yn dro hanner awr ar droed neu 15 munud ar feic o ganol Llanfairfechan, drwy ddilyn Valley Road i Newry Drive.

Cludiant Cyhoeddus

mae’r safle bws agosaf yn daith 30 munud ar droed, wrth ymyl y goleuadau traffig yn Llanfairfechan (safle Nant y Berllan).

Mae’r trên yn stopio ar gais yn unig yn Llanfairfechan. Mae’r safle’n daith 35 munud ar droed o’r orsaf.

Gyrru

ar hyd yr A55 o gyfeiriad Bangor, trowch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 14 am Lanfairfechan. Trowch i’r dde wrth ymyl y goleuadau traffig i Village Road, heibio i’r siopau ac yna i’r chwith i Bryn Road ac yna ar hyd Valley Road a Newry Drive.

Ar hyd yr A55 o gyfeiriad Conwy, trowch oddi ar yr A55 yng nghyffordd 15 i gyfeiriad Llanfairfechan. Trowch i’r chwith wrth ymyl y goleuadau traffig i Village Road, heibio i’r siopau ac yna i’r chwith i Bryn Road ac yna ar hyd Valley Road a Newry Drive.

Mae’r fynedfa i’r safle ar dro drwg – ceir lle parcio anffurfiol. (Cyfeirnod Grid SH 69474 73966)

 

Beth sydd i’w weld gerllaw?

Uwchlaw Nant y Coed beth am roi cynnig ar gylchdro 4.5 milltir ‘Taith Ucheldir Llanfairfechan’. Yn dechrau o faes parcio Teiryd ym mhen draw Valley Road. Mae’n lôn gul iawn!

Cffeirnod Grid: SH 6980 673586.


Gallwch wirio lefelau afonydd, glawiad a data môr ar wefan
Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os oes arnoch chi awydd treulio diwrnod cyfan yma, yna beth am fwrw golwg ar daflen 4 Taith Gerdded Llanfairfechan, a fydd yn mynd â chi am dro i warchodfeydd Glan y Môr Elias a Thyddyn Drycin.

Mae gan Lanfairfechan bromenâd a thraethlin hardd. Mae llwybr poblogaidd Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys y draethlin hon.

Bygythiadau i’n coetiroedd ynn

Mae Clefyd Coed Ynn yn glefyd sy'n effeithio ar goed ynn yn nifer o’n gwarchodfeydd natur a’n barciau coetir llydanddail.

end content