Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ynglŷn â chynigion Bae Penrhyn


Summary (optional)
start content

Amddiffynfeydd Arfordirol

Mae'r amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys morglawdd siâp-T alltraeth, yn ymestyn 100m i’r amfae ac ymestyn 90m o led rhwng y ddau grwyn presennol.

Ar yr un pryd byddem yn mewnforio tua 55,000mᶾ o gerrig mân (20mm i 100mm mewn diameter) i eistedd o flaen y morglawdd.

Bydd y morglawdd yn sicrhau bod deunydd newydd yn llai tebyg o gael ei gludo o’r gorllewin i’r dwyrain dros amser, gan gynyddu lefel amddiffyniad i’r morglawdd.

Gwelliannau i'r Promenad

Yn ogystal â gwella'r amddiffynfeydd arfordirol, rydym am wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r cynllun.

Mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Ailwynebu’r promenâd
  • Atgyweirio a gwella’r mynediad grisiog presennol i’r traeth
  • Adeiladu ramp hygyrch newydd yn y pen dwyreiniol
  • Adleoli’r maes parcio
  • Gosod croesfan i gerddwyr a beicwyr ar Ffordd Glan y Môr

Plannu

Bydd planhigion newydd ar lan y môr yn cynnwys:

  • Gwella’r gerddi cymunedol presennol gyda phlanhigion rhywogaethau naturiol ychwanegol
  • Plannu blodau gwyllt ar hyd ymyl Ffordd Glan y Môr

Celfi Stryd

Bydd y celfi stryd newydd yn cynnwys:

  • Meinciau
  • Standiau Beics
  • Canllaw newydd
  • Cawod ar y traeth

Ffyrdd A Mynediad

  • Croesfan newydd i gerddwyr a beicwyr ar Ffordd Glan y Môr

Ecoleg

Mae'r cynigion yn cynnwys pyllau glan môr a grëwyd o fewn y morglawdd alltraeth a grwyn presennol i wella ac annog bioamrywiaeth.

 

end content