
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella’r amddiffynfeydd llifogydd arfordirol o amgylch arfordir y sir er mwyn gallu wynebu her newid hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol.
Mae Llanfairfechan yn un lleoliad sydd wedi’i enwi lle gallai’r cynlluniau ddenu arian i leihau’r perygl llifogydd arfordirol a gwella mynediad amwynderau ar y blaendraeth.
Beth yw’r cynlluniau ar gyfer Llanfairfechan?
Rydym yn datblygu dyluniadau manwl ar gyfer gwelliannau arfaethedig i amddiffynfeydd arfordirol yn Llanfairfechan. Bydd y cynnig yn cynnwys cynyddu’r uchder ac addasu siâp yr amddiffynfeydd presennol i wella lefel yr amddiffyniad.
Prif ganolbwynt y cynllun yw gwella’r amddiffynfeydd, ond hoffem ddarparu buddion eraill os oes modd. Mae hyn yn cynnwys gwella maes parcio’r promenâd.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion, a ddisgwylir yn 2023.
Pam eich bod yn ystyried newid yr amddiffynfeydd?
Mae’r amddiffynfeydd presennol yn Llanfairfechan yn darparu rhywfaint o amddiffyniad i’r promenâd a’r dref yn erbyn y perygl o lifogydd o’r môr. Disgwylir i amlder a difrifoldeb stormydd waethygu dros y 100 mlynedd nesaf, oherwydd newid hinsawdd. Mae angen gwella’r amddiffynfeydd i gynyddu eu heffeithiolrwydd a lleihau’r risg presennol ac yn y dyfodol i’r dref.
Sut fydd y cynllun yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y gwelliannau yn targedu dwy elfen allweddol o’r amddiffynfeydd.
Uchder - dyma’r elfen bwysicaf i leihau risg llifogydd oherwydd lefelau dŵr uchel. Byddwn yn cynnal arolygon geodechnegol a strwythurol yn 2023 i ganfod a yw’r amddiffynfeydd presennol yn ddigon sefydlog i ni allu adeiladu ar eu pennau. Mae hyn yn golygu y gallwn godi’r uchder heb orfod dymchwel a disodli’r amddiffynfa gyfan.
Siâp - mae chwistrell môr a thonau’n sblasio yn cyfrannu’n sylweddol at berygl llifogydd yn Llanfairfechan. Mae rhai o’r amddiffynfeydd presennol o siâp nad yw’n ddelfrydol ar gyfer delio â’r broblem hon. Rydym yn ymchwilio a fyddai cynnwys ‘atro’ i rannau fertigol y wal bresennol yn lleihau perygl llifogydd heb rwystro’r olygfa.
Y Cob
Diweddaru:
- Gorlifodd y llanw dros ran o wal y môr r hyd y Cob yn Llanfairfechan yn ystod storm ar 5 Hydref 2021. Nid eiddo’r Cyngor yw wal y môr, ond mae hawl tramwy cyhoeddus y tu cefn i’r rhan lle bu’r dŵr yn gorlifo.
- Ar 23 Tachwedd 2021, cymeradwyodd y Cabinet y dylid cyflawni gwaith atgyweirio amddiffynfeydd meini brys gyda chost o oddeutu £275,000 ar gyfer y darn hwnnw, gydag ymgais i adennill y costau yn amodol ar ganfod perchennog y tir.
- Cafwyd difrod pellach gan stormydd ddiwedd mis Tachwedd a Rhagfyr ac rydym wedi cyflawni asesiadau ac arolygon strwythurol ychwanegol.
- Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi’i gau am resymau diogelwch oherwydd bod perygl y bydd y llwybr yn cael ei danseilio ymhellach gan lanw uchel.
- Rydym wedi creu llwybr amgen dros dro er mwyn gallu ail-agor y llwybr. Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o risiau, felly nid yw’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
- Rydym yn aros am drwydded forol i gyflawni’r gwaith amddiffyn yn yr ardal. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y llwybr troed hygyrch blaenorol yn cael ei agor eto.
Mis Mawrth 2022
- Mae gwaith amddiffynnol yn dechrau yn yr wythnos gyntaf o fis Mawrth i osod creigiau amddiffyn ar y morglawdd, lle mae’r wal fôr wedi disgyn oherwydd difrod o ganlyniad i stormydd.
- Fe fydd cam cyntaf y gwaith yn ymwneud â chludo creigiau amddiffyn i Station Road drwy Penmaenmawr Road. Bydd y creigiau wedyn yn cael eu cludo i’r safle drwy ffordd y rhandir. Nid yw’n bosibl i fynd â’r creigiau amddiffyn yn uniongyrchol i’r safle o ganlyniad i’r cyfyngiadau uchder ar bont yr A55 a’r bont reilffordd.
- Fe fydd maes parcio Station Road yn cael ei ddefnyddio fel safle’r gwaith ym Mawrth ac Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd maes parcio Station Road ar gau.
- Bydd y cam cyntaf yn cymryd oddeutu 7 wythnos, gyda mwy o waith yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Bydd y llwybr troed i Lan y Môr Elias ar gau tra bydd y gwaith yn cael ei gynnal.
Adborth:
Adran Risg Llifogydd ac Isadeiledd:
Ebost: affch@conwy.gov.uk