Sefydlwyd Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn i ymdrin â chyflwr yr amddiffynfeydd arfordirol ar hyd glan y môr Bae Colwyn
Mae'r rhan fwyaf o'r amddiffynfeydd presennol yn dyddio yn ôl i droad yr 20fed ganrif. Mae'r dirywiad yn lefelau'r traeth wedi gadael yr amddiffynfeydd yn agored mewn llawer o fannau, ac roedd difrifoldeb cynyddol ac amlder stormydd ynghyd â’r bygythiad o newid yn yr hinsawdd yn fygythiad cynyddol i eiddo a seilwaith ar hyd glan y môr a'r dref ei hun. Cafodd y penderfyniad ei wneud i adnewyddu'r amddiffynfeydd llifogydd presennol er mwyn darparu amddiffynfeydd arfordirol effeithiol a hir dymor ar gyfer y dref a'i thrigolion. Oherwydd y gwaith sylweddol oedd ei angen, penderfynwyd y gellid defnyddio hyn fel cyfle i amddiffyn y gymuned a'i seilwaith a’i wella drwy greu promenâd a fyddai'n denu trigolion lleol ac ymwelwyr, gan roi hwb i'r economi leol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i gysylltu â ni.
Cwestiynau a ofynnir yn aml am y Prosiect Glan y Môr
Gwaith wedi'i gwblhau a gwaith arfaethedig
Datblygu Prosiect ac Ymgynghori