Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llandrillo-yn-Rhos: Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol - Adborth Ymgynghoriad


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar gynigion am amddiffynfeydd arfordirol a gwelliannau i’r promenâd yn Llandrillo yn Rhos
start content

Rydym ni wedi derbyn llawer o sylwadau ar y gwelliannau arfaethedig i’r promenâd a’r amddiffynfeydd arfordirol.

Mae llawer o bobl wedi datgan eu cefnogaeth i’r traeth tywodlyd newydd, yr ardaloedd picnic, dad-ddofi’r arglawdd, y lle chwarae plant a’r llwybr beicio diogel i deuluoedd ar y promenâd.

Rydym ni hefyd wedi derbyn pryderon ynghylch agweddau penodol o’r cynigion, felly hoffem ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhain:

Ciosgau Consesiwn

Mae mwyafrif y rhai a roddodd sylwadau penodol am y ciosgau consesiwn wedi mynegi pryder bod y rhain am gael eu symud o’r promenâd, gan eu bod yn boblogaidd ac yn darparu gwasanaeth i drigolion ac ymwelwyr. Roedd rhai eisiau cadw’r adeiladau fel ag y maent, ac eraill eisiau sicrhau bod y cyfleusterau’n cael eu disodli.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu drwy raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru, ac nid yw’r arian yn cwrdd â chostau codi adeiladau newydd. Mae’r cynllun fodd bynnag yn cynnwys creu plotiau a’r cysylltiadau gwasanaeth angenrheidiol ar gyfer adeiladau newydd.

 Mae’r tîm prosiect wedi cyflwyno achos busnes am gyllid uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddylunio a chodi dau adeilad consesiwn newydd. Os yn llwyddiannus, bydd dau adeilad consesiwn modern, hygyrch a chynaliadwy yn cael eu codi. Rydym ni hefyd yn dal yn chwilio am gyfleoedd ariannu eraill ar gyfer adeiladau yn lle’r ciosgau.

Pam bod angen hyn?
Bydd symud y ciosgau consesiwn ar y promenâd yn caniatáu i ni greu ardal i gerddwyr yn unig, yn ogystal â llwybr teithio llesol ‘rhannu gyda gofal' ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Bydd yr ardal wedyn yn cyrraedd safonau’r llwybr teithio llesol, sydd wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus ar y promenâd ym Mae Colwyn. Bydd symud yr adeiladau hefyd yn eu gwneud yn fwy cadarn i oresgyn llifogydd, gan eu codi ar blinthau uchel y tu ôl i’r morglawdd.

Newidiadau Ffordd

Roedd dros hanner y sylwadau a gafwyd gan breswylwyr lleol yn mynegi pryderon ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r ffyrdd drwy wneud y promenâd ar hyd gwaelod Arglawdd Cayley yn ffordd unffordd o Landrillo-yn-Rhos i Fae Colwyn.

Rydym ni hefyd wedi derbyn sylwadau am ddiogelwch cerddwyr ar draws Promenâd Cayley oherwydd y traffig ychwanegol. Rydym ni wedi cynnwys mannau croesi mewn lleoliadau amrywiol i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu croesi’n ddiogel.

Pam bod angen hyn?

Os nad oes modd lledu’r rhan o’r promenâd y mae modd ei ddefnyddio, yna ychydig iawn o’r buddion ehangach y mae modd eu gwireddu. Byddai cael gwared ar ffordd unffordd arfaethedig yn golygu colli llawer o’r buddion diogelwch a hamdden.

Drwy leihau traffig ar bromenâd y gorllewin i un lôn byddwn yn gallu creu promenâd saffach, haws ei ddefnyddio a mwy hygyrch. Byddwn yn gwneud hyn drwy greu:

  • Llwybr teithio llesol ‘rhannu gyda gofal’ 4 metr o led ar gyfer cerddwyr a beicwyr
  • ‘Parth gweithgareddau’ wrth ymyl y llwybr teithio llesol sy’n cynnwys lle eistedd, blodau, gwaith celf, llefydd picnic a llefydd chwarae bychain gyda thema ar gyfer plant
  • Rhodfa i gerddwyr yn unig ar hyd rheiliau’r morglawdd ar y promenâd, ar gyfer y rheiny sydd eisiau cerdded yn hamddenol ar hyd y promenâd heb boeni am feicwyr

Byddwn yn cadw’r llefydd parcio presennol ar waelod arglawdd Cayley. Bydd llain glustogi 1 metr newydd yn cael ei chreu ochr yn ochr â’r llefydd parcio cyfochrog ar ochr y morglawdd i wella diogelwch wrth barcio a dod allan o’r cerbydau neu ddadlwytho.

Drwy weithredu system unffordd gyda therfyn cyflymder o 20mya gallwn wella diogelwch defnyddwyr y promenâd a darparu buddion ehangach cynllun newydd y promenâd.

Beth oedd y dewisiadau eraill?

Edrychwyd ar nifer o ddewisiadau i ledu’r promenâd er mwyn darparu’r gwelliannau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cau promenâd y gorllewin i draffig yn gyfan gwbl, gan ddargyfeirio’r traffig i bromenâd Cayley
  • Lledu’r promenâd drwy godi morglawdd newydd tua’r môr o’r un presennol, fel y gwnaethpwyd yn ystod camau blaenorol
  • Codi wal gynnal fawr ar hyd gwaelod yr arglawdd i greu mwy o le
  • Tynnu’r holl barcio ar hyd ochr yr arglawdd ar Bromenâd y Gorllewin
  • Cyflwyno system unffordd lawn yn yr ardal ar gyfer y ffyrdd ar ochr uchaf ac isaf Arglawdd Cayley

Er bod bob un o’r datrysiadau hyn yn darparu buddion, roedden nhw hefyd yn cyflwyno anfanteision. Rydym ni’n credu bod y datrysiad arfaethedig o wneud Promenâd y Gorllewin yn ffordd un lôn tuag at Fae Colwyn yn gyfaddawd da ar gyfer yr holl ddefnyddwyr a thrigolion lleol.

Gofod Cerddwyr a Beicwyr a Rennir

Mae’r cynigion yn dangos llwybr beiciau a cherdded ‘rhannu gyda gofal’ 4 metr o led drwy ganol y promenâd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r rhannau o’r promenâd ym Mae Colwyn sydd wedi’u gwella ac yn cydymffurfio â chanllawiau Sustrans, ceidwad y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Pam bod angen hyn?

Mae’r llwybr beicio ar wahân mewn cyflwr gwael ac mae rhai rhannau yn agos iawn at y ffordd. Drwy greu llwybr lletach gyda marciau clir, sy’n rhedeg yn llyfn ar hyd y promenâd, gall beicwyr o bob oed a gallu lywio’r rhan hon o’r promenâd yn ddiogel. Mi fydd yna hefyd rodfa i gerddwyr yn unig gyda’r morglawdd.

Llochesi Newydd

Rydym ni eisoes wedi tynnu rhai llochesi ar bromenâd Llandrillo-yn-Rhos oherwydd eu bod mewn cyflwr gwael, yn aml iawn oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym ni wedi derbyn llawer o sylwadau, yn sgil yr ymgynghoriad hwn ac ymgynghoriadau eraill, am werth gofodau o’r fath i gymryd hoe neu i gysgodi rhag y tywydd.

Mae’r cynllun yn cynnwys llochesi newydd. Bydd eu cynllun agored yn annog unigolion i beidio ag ymddwyn yn wrthgymdeithasol, a ddifethodd yr hen lochesi, yn ogystal â darparu lloches rhag y tywydd.

Casgliad

Rydym ni wedi ystyried bob un sylw a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Rydym ni wedi adolygu manylion y cynllun a dewisiadau amgen yn sgil y sylwadau hyn ac wedi gwneud mân newidiadau i wella diogelwch. Nid yw’r cynllun wedi newid ryw lawer ers yr ymgynghoriad – rydym ni’n credu bod y cynigion yn darparu’r buddion cyffredinol gorau ar gyfer y rhan helaeth o’r gymuned, rŵan ac i’r dyfodol.

Prif nod y cynllun yw gwella’r amddiffynfeydd arfordirol yn yr ardal hon i wneud yn siŵr eu bod yn ddigon cadarn i amddiffyn y promenâd, y briffordd, isadeiledd, cartrefi ac eiddo masnachol rhag bygythiad cynyddol y môr a newid hinsawdd.

Bydd mewnforio oddeutu miliwn tunnell o dywod i'w roi o flaen y morglawdd presennol yn fesur diogelwch ychwanegol yn ogystal ag amwynder ar gyfer trigolion ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Ar yr un pryd rydym ni’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y buddion sy’n gysylltiedig â gwella gofod y promenâd drwy greu promenâd diogel, cynhwysol a hygyrch i drigolion ac ymwelwyr am flynyddoedd i ddod.

end content