Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ynglŷn â chynigion Llandrillo-yn-Rhos


Summary (optional)
start content

AMDDIFFYNFEYDD ARFORDIROL

Mae'r amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys strwythur grwyn cerrig newydd ac ychwanegu tywod i'r traeth. Bydd uchder y traeth yn codi o tua 5 metr ar lan y môr gyda thua 1 filiwn tunnell o dywod aur yn cael ei fewnforio. Caiff ei bwmpio i'r traeth drwy beiriannau codi tywod o’r môr. Dyma’r un dull a ddefnyddiwyd ar gyfer traeth Bae Colwyn yng Ngham 1c.

Glan y Môr Bae Colwyn Cam 2b (PDF, 19978KB)

Bydd y grwyn cerrig newydd yn defnyddio deunydd o strwythurau grwyn cerrig a chreigiau presennol, a fyddai fel arall yn cael eu claddu o dan y traeth newydd. Mae ailddefnyddio’r deunydd hwn yn golygu na fydd yn rhaid mewnforio mwy o ddeunydd cerrig.

Bydd y grwyn gorffenedig yn uwch ac yn ehangach a bydd braich newydd yn cael ei hychwanegu i greu dyluniad cynffon pysgodyn. Bydd hyn yn lleihau'r risg i’r tywod lithro’n ôl i'r harbwr.

Bydd yn darparu traeth a fydd yn hygyrch ar bob amser y llanw.

Er mwyn amddiffyn y promenâd rhag difrod gan donnau sy'n gorlifo, bydd stribed concrit wedi'i atgyfnerthu 2 fetr o led ar ochr tir y morglawdd, yn darparu arwyneb cadarn a all wrthsefyll amgylchedd yr arfordir.

GWELLIANNAU I’R PROMENÂD

Yn ogystal â gwella'r amddiffynfeydd arfordirol, rydym am wneud gwelliannau i'r promenâd er mwyn sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r cynllun.

Bydd ehangu'r promenâd yn rhoi mwy o le i'r holl ddefnyddwyr, gan ganiatáu ar gyfer Teithio Llesol, hwyl i'r teulu a gweithgareddau hamdden.

Bydd y promenâd ar ei newydd-wedd yn cynnwys:

  • 4 metr o led i feicwyr a cherddwyr rannu i wella diogelwch
  • Parth gweithgareddau gyda meinciau, planwyr, coed, offer chwarae a biniau
  • Lle i ddigwyddiadau gyda phalmant nodweddiadol
  • Nodwedd gelf gyhoeddus ger Gerddi Combermere
  • Marcwyr iechyd – yn dangos y pellter a deithiwyd o Bier Bae Colwyn

GOLEUADAU

Mae'r cynigion yn cynnwys cynllun goleuo effeithlon newydd ar gyfer yr ardal, yn unol â chamau blaenorol cynllun y Glannau.

PLANNU

Bydd planhigion newydd ar lan y môr yn cynnwys:

  • Plannwyr isel ac uchel gyda phlanhigion sy’n gorchuddio’r tir
  • Coed mewn planwyr uchel ar hyd y parth gweithgareddau

Celfi Stryd

Bydd y celfi stryd newydd yn siwtio gwahanol ddefnyddwyr, gweithgareddau a meintiau grwpiau, ac yn cynnwys:

  • Celfi picnic
  • Meinciau
  • Celfi chwarae
  • Standiau Beics

Llochesi

Mae'r cynigion yn cynnwys llochesi newydd i ddisodli’r rhai presennol. Bydd y llochesi gwell yn darparu lle newydd, diogel a hygyrch i orffwys neu gysgodi rhag y tywydd.

Mae'r llochesi’n cynnwys nodweddion newydd fel goleuadau pŵer solar a dyluniad hygyrch.

Ffynnon Ddŵr

Bydd y ffynnon ddŵr hanesyddol, sydd ar hyn o bryd i'r de o Harbwr Llandrillo-yn-Rhos, yn cael ei hadleoli i'r parth gweithgareddau newydd. Os yn bosibl, ein nod fydd darparu cyflenwad dŵr newydd i’r ffynnon.

Ciosgau Consesiwn

Er mwyn caniatáu mwy o led ar y promenâd ar gyfer beicwyr a cherddwyr, bydd y ciosgau hen ffasiwn presennol ar Bromenâd y Gorllewin yn cael eu tynnu. Rydym yn chwilio am arian i adleoli ac uwchraddio'r ciosgau - bydd y gwaith adeiladu hwn o dan gynllun ar wahân, ond rydym wedi cynnwys y lle a'r cyfleustodau angenrheidiol fel rhan o'r cynnig hwn.

Adborth y cyhoedd

Rydym wedi derbyn llawer o adborth am y ddau gaban ar ôl y rhyfel ar y rhan yma o’r promenâd.  Roedd y rhan fwyaf o’r adborth a dderbyniwyd yn cefnogi cadw’r cabanau fel ag y maent neu wneud yn siŵr bod arian ar gael i’w hamnewid cyn dymchwel yr unedau sy’n bod eisoes.  Pwysleisiwyd bod y cabanau yn darparu mwy na dim ond brechdanau a diod boeth, a’u bod yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned, a lle i’r gymuned gyfarfod.

Diweddariad - mis Rhagfyr 2021:

Rydym yn gwneud cais am oddeutu £14m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol ar gyfer Llandrillo-yn-Rhos.  Mae’r cyllid hwn yn gofyn i ni fod â chynllun yn barod erbyn mis Mawrth 2022.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys y lle a’r gwasanaethau ar gyfer cabanau newydd ac rydym yn dal i chwilio am gyllid i amnewid y cabanau.  Mae’r tîm prosiect wedi cyflwyno achos busnes ar gyfer amnewid y cabanau i gael eu hariannu’n uniongyrchol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy os na fyddwn wedi diogelu cyllid grant cyn bod y gwaith dymchwel i fod i ddechrau. 

Diweddariad – mis Mai 2022:

Rydym wedi sicrhau cyllid i ddisodli’r ciosgau presennol gyda chyfleusterau modern.

Dangosir lleoliadau’r ciosgau newydd ar y cynllun wedi’u rhifo’n 11 a 12.

FFYRDD A MYNEDIAD

Mae'r cynigion yn cynnwys newidiadau i lif traffig i:

  • roi lle i ehangu’r promenâd er mwyn gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd yn dilyn cynnydd mewn damweiniau traffig ar hyd y promenâd

Bydd ffordd y promenâd ar hyd gwaelod Arglawdd y Cayley yn cael ei lleihau i un lôn o draffig, yn mynd tuag at Fae Colwyn yn unig. Bydd ffordd Promenâd y Cayley yn aros yn ffordd ddwyffordd.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys:

  • newidiadau i gynllun y cyffyrdd ar bob pen i Arglawdd y Cayley
  • nodweddion lleihau cyflymder traffig ar Bromenâd y Gorllewin
  • croesfannau i gerddwyr ar Bromenâd y Gorllewin a Phromenâd y Cayley

Bydd y newidiadau hyn yn gwella mynediad i bawb ar hyd Promenâd y Gorllewin, gan greu man cyhoeddus diogel a hygyrch a llwybr teithio llesol.

System Unffordd


Adborth y cyhoedd

Rydym wedi derbyn sylwadau am y system unffordd arfaethedig yn cynnwys gofyn am y rhesymau dros y newid, cwestiynau o ran sŵn, llygredd a diogelwch ar hyd promenâd Cayley, a nifer o awgrymiadau ar gyfer beth allwn ni ei wneud yn wahanol. 

Pam fod angen system unffordd?

Er mai prif bwyslais y cynllun hwn yw amddiffyniad arfordirol, mae cyfle i ddarparu buddion ehangach i’r ardal leol hefyd, yn unol â gofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Llwyddodd camau blaenorol Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn i ddarparu gwelliannau drwy ledu’r promenâd ym Mae Colwyn.  Roedd yn cynnwys lledu’r Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, lleoedd i ddigwyddiadau, celf gyhoeddus, wal ddringo, plannu, ac adeilad caffi Horizon Shine.

Rydym eisiau darparu buddion ychwanegol tebyg ar hyd rhan Llandrillo-yn-Rhos.  Mae’r cynlluniau yn cynnwys:

  • parhau’r llwybr lletach a rennir
  • mannau i eistedd
  • lleoedd i gysgodi newydd
  • planhigion a choed
  • byrddau picnic hygyrch i gadeiriau olwyn
  • cyfleusterau cawod neu olchi traed i bobl sy’n defnyddio’r traeth
  • mannau agored ar gyfer digwyddiadau
  • mannau chwarae bach (gweler y delweddau gweledol wedi’u diweddaru)
  • elfennau chwarae synhwyraidd a byrddau PECS 

Er mwyn darparu’r holl fuddion, mae angen i ni ledu’r promenâd cul.  Yn y camau blaenorol, cafodd y lled ychwanegol hwn ei ddarparu wrth ailadeiladu’r morglawdd, ond nid oes angen ailadeiladu’r morglawdd yn Llandrillo-yn-Rhos.  I gael y lled ychwanegol, bu i ni ystyried yr opsiynau hyn:

  • Cau Promenâd y Gorllewin yn gyfan gwbl i draffig sy’n mynd drwodd, gan greu lle mawr i ddigwyddiadau yng nghanol y promenâd, gyda mynediad i’r maes parcio o’r ddau ben.  Byddai hyn wedi darparu’r lle ychwanegol mwyaf a’r gwelliannau mwyaf i ddiogelwch ar hyd y promenâd.  Ystyriwyd y byddai symud 100% o’r traffig drwodd ar Bromenâd Cayley yn annheg i’r preswylwyr hynny. 
  • Symud yr holl leoedd parcio ar hyd ochr arglawdd Promenâd y Gorllewin.  Byddai hyn wedi galluogi i’r ddwy lôn symud tua’r tir, gan greu lled ychwanegol ar hyd y promenâd. Ystyriwyd y byddai symud cymaint o leoedd parcio yn arwain at fwy o gerbydau yn parcio yn yr ardal breswyl gyfagos, gan achosi problemau diogelwch a llif traffig ar y ffyrdd preswyl.
  • Adeiladu strwythur mur cynnal mawr ar hyd waelod Arglawdd Cayley i greu lled ychwanegol.  Nid oedd yr opsiwn hwn yn ddichonadwy yn economaidd oherwydd yr holl waith peirianneg sifil oedd ei angen ar hyd rhan mor hir.

Mae’r cynigion presennol ar gyfer system unffordd yn cynrychioli cyfaddawd ymarferol.  Drwy symud dim ond un lôn o draffig o Bromenâd y Gorllewin ar y ffordd baralel, gallwn ledu’r prom yn ddigon i ddarparu gwelliannau diogelwch a buddion ehangach, wrth liniaru’r effeithiau ar breswylwyr Promenâd Cayley a’r ardal gyfagos.   

* Diweddariad *

Yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol, codwyd pryderon gan y preswylwyr am ddiogelwch cerddwyr sy’n mynd am y promenâd o’r ardal breswyl gyfagos.   Rydym wedi ychwanegu tair croesfan newydd i gerddwyr i alluogi preswylwyr i groesi Promenâd Cayley yn ddiogel.  Gweler y rhain ar y cynlluniau sydd wedi’u diweddaru yn Nwyrain Ffordd Llannerch, Dwyrain Ffordd Ebberston a Ffordd Whitehall.

ECOLEG

Mae'r cynigion yn cynnwys newid i waith rheoli’r glaswelltir i wella gwerth bioamrywiaeth Arglawdd y Cayley a bod o fudd i ieir bach yr haf, gwenyn, adar a mamaliaid bach.

Mae’r cynlluniau i’w gweld ar gopi caled yn Llyfrgell Bae Colwyn. Mae’r amseroedd agor i’w cael yma: Llyfrgell Bae Colwyn.

Gallwch weld dogfennau cefnogi ychwanegol yn Llyfrgell Bae Colwyn, neu gallwch ofyn am fersiynau electronig. Mae’r dogfennau hyn yn cynnwys y Datganiad Dylunio a Mynediad, Datganiad Amgylcheddol ac Asesiad Canlyniadau Llifogydd wedi’i ddiweddaru yn dilyn y newidiadau diweddar i TAN-15, a chynlluniau ac atodiadau technegol.

ADBORTH

Os hoffech wneud sylw am y cynigion hyn cyn i ni gyflwyno cais cynllunio, gallwch wneud hyn drwy:

Ar-lein: Adborth Glan y Môr Bae Colwyn

E-bost: llifogydd@conwy.gov.uk


Post:

Prosiect Glan y Môr Bae Colwyn,
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN

Ymatebwch erbyn: 23 Rhagfyr 2021

end content