Gorffenaf 2019
Trefnodd Fforwm Arfordirol Llandudno, gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i ymgynghorwyr, sesiwn galw heibio cyhoeddus yng Nghanolfan Fictoria, Llandudno ddydd Gwener 27 a dydd Sadwrn 28 Gorffennaf 2019. Edrychodd trigolion ac ymwelwyr ar yr opsiynau sydd ar y rhestr fer ar gyfer rheoli traethau Llandudno a rhoi eu sylwadau.Cyflwynwyd sylwadau hefyd drwy ein gwefan.
Rydym wedi crynhoi’r sylwadau a gafwyd mewn adroddiad i gyd-fynd â’r Achos Busnes Amlinellol.
Gallwch weld y Byrddau Cyflwyniad ar Amddiffynfeydd Llifogydd Llandudno
Mehefin 2021
Ar 8 Mehefin 2021, bu i’r Cabinet adolygu’r Achos Busnes Amlinellol drafft a chreu rhestr fer o’r dewisiadau. Bu i’r Cabinet nodi mai eu dewis a ffefrir ar gyfer Traeth y Gogledd oedd gosod tywod yn lle’r gefnen gerrig rhwng Vaughan Street a Chornel y Plant.
Hydref 2021
Rydym wedi cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol terfynol i Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad technegol ac ystyriaeth yn erbyn amcanion y rhaglen. Y cam nesaf fydd gwaith dylunio manwl ar y cynllun, a fydd yn golygu ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r gwaith a wnaed hyn yma ar y cynllun gwella amddiffyniad arfordirol wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy ei Raglen Rheoli Risg Arfordirol. Byddwn yn gwneud cais i Lywodraeth Cymru am arian ar gyfer camau’r dyfodol, gyda rhywfaint o’r arian yn dod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mehefin 2022
Y mae’r Achos Busnes Amlinellol wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Yr ydym bellach yn gweithio ar y manylion sydd eu hangen ar gyfer yr Achos Busnes Llawn, gan symud ymlaen â’r dyluniadau cysyniad ar gyfer y dewisiadau yn yr Achos Busnes Amlinellol. Byddwn yn gweithio ar ymchwiliadau tir ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach y flwyddyn hon.
Awst 2022
Mae cangen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym na ellir ariannu’r dewis o roi tywod ar Draeth y Gogledd gan y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP).
Mae’r rhaglen hon wedi ei thargedu at leihau’r perygl o lifogydd arfordirol, ac nid ydynt yn credu y byddai’r dewis o roi tywod yn rhoi unrhyw fuddion ychwanegol ar gyfer amddiffyn yr arfordir. Maent yn ystyried na ellir cyfiawnhau’r gost o £23.9 miliwn ar gyfer y dewis tywod, tra bod y dewis o godi wal y promenâd ar gost o £6.7 miliwn yn rhoi’r un budd o ran amddiffyn yr arfordir.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gwerthfawrogi bod awydd cryf yn lleol am draeth tywod ar ran benodol o Draeth y Gogledd, ond nad y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol yw’r ffordd briodol o gyflawni hyn, ar gost mor uchel.
Mae Cynghorwyr ar y Pwyllgor Craffu wedi cytuno, fel blaenoriaeth, i lobïo Gweinidogion Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Newid Hinsawdd a Llywodraeth y DU i geisio cyllid.
Medi 2022
Mae’r Cabinet wedi penderfynu derbyn cyllid gan y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i barhau gyda’r dewis ‘dim tywod’ er mwyn lleihau’r risg o lifogydd arfordirol i Draeth y Gogledd a Phenmorfa.
Ionawr 2023
Rydym wedi sicrhau cyllid o’r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol i dalu am Achos Busnes Llawn a Dyluniad Manwl.
Camau nesaf
Byddwn yn cyflawni archwiliadau ar safle yng Ngwanwyn 2023 i’n helpu gyda’r broses dyluniad manwl.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael i’w rannu gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid dros Wanwyn a Haf 2023.
Ein nod yw dechrau ar y gwaith yn 2024