Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Bae Penrhyn - Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol


Summary (optional)
start content

Disgwyliwn i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2023.

Ailagorodd y promenâd a’r llwybr beicio ym mis Mehefin 2023.

Y sefyllfa bresennol


Mae yna fygythiad cynyddol i forglawdd sy’n heneiddio ym Mae Penrhyn oherwydd stormydd a llifogydd arfordirol cysylltiol sy’n digwydd yn gynyddol aml.

Mae cerrig mân eisoes wedi eu darparu ar gyfer blaen y morglawdd presennol gan gynnig mwy o amddiffyniad yn erbyn tonnau. Dros amser, mae’r cerrig mân a gyflwynwyd wedi eu cludo o’r gorllewin i’r dwyrain gan leihau lefel yr amddiffyniad a ddarparwyd. Mae darpariaeth barhaus mwy o gerrig mân ac ail-broffilio’r traeth wedi dod yn gynyddol gostus ac nid yw’n gynaliadwy yn y tymor hir i ddelio gyda'r newid hinsawdd a ragwelir.

Beth sy'n digwydd?


Yn dilyn ymgynghoriad yn 2021, a derbyn caniatâd cynllunio yn 2022, mae’r gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau 23 Ionawr 2023.  

Gwelliannau i fannau cyhoeddus


Bydd seddi, canllawiau ac arwyneb newydd yn cael eu gosod ar y rhan o’r promenâd gyferbyn â Chaffi’r Traeth. Bydd y lle parcio anffurfiol yn cael ei symud gyferbyn â mynedfa Clwb Golff Rhos.  

Gosodir croesfan newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng Maes Gwyn Road a Pendorlan Road.  Bydd y llwybr beiciau a’r llwybr troed ar hyd y promenâd ar gau tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn.

Disgwylir i’r cam hwn o’r gwaith fod wedi’i gyflawni mewn pryd fel bod modd ailagor y promenâd a’r llwybr beiciau ar gyfer yr haf.

Gwelliannau i’r amddiffynfeydd arfordirol


Byddwn yn adeiladu grwyn siâp T ac yn ail-lenwi’r traeth gyda graean er mwyn diogelu’r amddiffynfeydd grisiog presennol, y promenâd a’r seilwaith y tu ôl iddo rhag bygythiad cynyddol newid yn yr hinsawdd a stormydd.  
Bydd rhannau o’r traeth ar gau yn ystod y gwaith hwn er diogelwch y cyhoedd a’r gweithlu.

Cyllid


Mae Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o'r gwaith, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu'r 15% arall.

PartFundedByWelshGovernment

 

end content