Bydd yn rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Gallwch drefnu apwyntiad yma.
Gallwch waredu dwy fatres y flwyddyn drwy fynd â nhw i:
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Mochdre
Ffordd Bron-y-Nant
Mochdre
LL28 4YL
a
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Gofer
Ffordd Rhuddlan
Llansansior
Abergele
LL22 9SE
Oriau agor:
Diwrnod | Haf (1 Ebrill tan 31 Hydref) | Gaeaf (1 Tachwedd tan 31 Mawrth) |
Llun i Sadwrn |
09:00-17:00 |
09:00-16:00 |
Sul |
09:00-16:00 |
09:00-16:00 |
Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Mae'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gau ar:
- Ddydd Nadolig (25 Rhagfyr)
- Gŵyl San Steffan (26 Rhagfyr)
- Dydd Calan (1 Ionawr)
Oriau agor hirach: Mae'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar agor o 09:00 tan 17:00 o 27 Rhagfyr hyd at 31 Rhagfyr.
Bydd yr oriau agor arferol (gaeaf) yn ôl ar 2 Ionawr.
Penwythnosau Gwyliau Banc
Ac eithrio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, nid oes unrhyw newidiadau i oriau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar wyliau banc neu wyliau cyhoeddus eraill fel y Pasg a gwyliau banc mis Awst.
Pwysig: Os yw’r cyfleusterau ailgylchu gwastraff cartref ar gau, peidiwch â gadael matresi y tu allan i’r fynedfa. Mae hyn yn cael ei ystyried fel tipio anghyfreithlon, rhywbeth mae’r Cyngor yn ei gymryd o ddifrif.
Mae camerâu TCC yn gwylio’r fynedfa i’r cyfleusterau ailgylchu gwastraff cartref gyda thechnoleg Adnabod Rhifau Cofrestru Ceir Awtomatig (ANPR). Defnyddir y rhain fel tystiolaeth yn erbyn unrhyw droseddwyr sy'n tipio yn anghyfreithlon.
Gall tipio anghyfreithlon arwain at ddirwyon o hyd at £50,000 a hyd yn oed dedfryd carchar.