Bydd yn rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu symudol.
Gallwch drefnu apwyntiad yma.
Mae ein cyfleuster ailgylchu gwledig ar agor o 9:00 tan 11:00.
Lleoliadau
Cerrigydrudion
- Dydd Sadwrn cyntaf pob mis
- Depo Priffyrdd, Cae Llwyd, LL21 9TH
Ni fydd y ganolfan ailgylchu symudol yn dod i Gerrigydrudion ym mis Ionawr, ond gallwch drefnu apwyntiadau ar gyfer Llanrwst a Llangernyw.
Llanrwst
- Ail ddydd Sadwrn pob mis
- Maes parcio ger Canolfan Glasdir, LL26 0DF
Llangernyw
- Trydydd dydd Sadwrn pob mis
- Maes parcio Ysgol Bro Cernyw, LL22 8PW
Beth allaf ddod gyda mi?
- Eitemau'r cartref fel dodrefn, plastigion caled (er enghraifft, teganau), metel sgrap, eitemau trydanol (er enghraifft oergelloedd, poptai) ac eitemau mawr fel matresi.
- Gwastraff ailgylchu fel poteli plastig, cardbord a gwydr
- Gwastraff gardd
- Eitemau na ellir eu hailgylchu fel polystyren
Beth na allaf ddod gyda mi?
- Peidiwch â dod a gwastraff heb ei ddidoli - sicrhewch eich bod yn gwahanu eich eitemau ailgylchu cyn i chi ddod.
Ni allwn dderbyn gwastraff adeiladu/DIY fel rwbel, ffenestri, drysau, pridd, pren na bwrdd plastr. Bydd angen i chi fynd â’r eitemau hyn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref