Trefnu apwyntiad
Mae’n rhaid i chi drefnu apwyntiad i ymweld â’r ganolfan ailgylchu
Mae hyn er mwyn eich cadw chi a staff y ganolfan yn ddiogel ac i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r Canolfannau at ddefnydd preswylwyr sir Conwy yn unig - efallai byddwn yn gofyn i chi am brawf o’ch cyfeiriad pan rydych yn cyrraedd y safle.
Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin cyn i chi drefnu apwyntiad os gwelwch yn dda, er mwyn i chi wybod beth ddylech ddod gyda chi a beth i’w ddisgwyl cyn mynd.
Sut ydw i’n archebu slot yn y Ganolfan Ailgylchu Symudol?
Y ffordd hawsaf i archebu apwyntiad yw drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar ein gwefan - defnyddiwch y botymau ar waelod y dudalen hon i ddewis pa ganolfan yr ydych yn dymuno ymweld â hi. Os nad oes gennych chi fynediad i’r we, gallwch ffonio ein Tîm Cynghori ar 01492 575337.
Pam bod rhaid i mi wneud apwyntiad?
Mae’n bwysig ein bod yn diogelu staff ac ymwelwyr yn y Canolfan Ailgylchu Symudol. Rydym yn defnyddio’r system apwyntiadau i helpu pobl i gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, sy’n golygu mai dim ond hyn a hyn o apwyntiadau sydd ar gael bob diwrnod.
A oes rhaid imi ddefnyddio’r un cerbyd ag y nodais wrth archebu’r apwyntiad?
Oes – byddwn yn gwirio’r rhif cofrestru yn erbyn yr archeb.
Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn gallu mynychu fy apwyntiad?
Os ydych chi’n gwybod ymlaen llaw na fyddwch ar gael i fynychu’r apwyntiad, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu cynnig yr apwyntiad i rywun arall.
A alla i ddod ag eitemau ychwanegol nad oeddwn wedi’u cynnwys ar y rhestr pan oeddwn yn archebu?
Gallwch - rydym yn gofyn am ychydig o wybodaeth am y prif eitemau yr ydych yn dod gyda chi i’n helpu i reoli’r safle.
Beth fydd yn digwydd ar ôl imi gyrraedd y Ganolfan Ailgylchu?
- Ceisiwch gyrraedd yn brydlon, er mwyn osgoi ciwiau.
- Arhoswch yn eich car gyda’ch ffenestri i fyny nes y bydd staff yn gofyn i chi yrru i’r ganolfan.
- Bydd gennych 10 munud ar y safle. Sicrhewch eich bod yn gorffen dadlwytho eich gwastraff o fewn yr amser hwn.
- Dim ond un person fydd yn cael mynd allan o’r car - dewch ag eitemau y gallwch eu cario yn unig, nid oes modd i staff helpu
- Gwisgwch ddillad addas fel menig ac esgidiau trwm os ydych chi’n ymdrin â phethau miniog neu drwm
- Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu eich gwastraff cyn dod, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dadlwytho o fewn eich slot 10 munud.
- Sicrhewch eich bod yn cadw o leiaf 2 fetr (6 troedfedd) i ffwrdd o bobl eraill ar y safle.
Os nad ydych yn parchu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol neu’n ymddwyn yn dreisgar gyda staff ar y safle, bydd gofyn i chi adael, ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid ffonio’r Heddlu.
A yw staff y Ganolfan yn gallu fy helpu i ddadlwytho fy ngherbyd?
Nac ydyn. I gadw chi a’r staff ar y safle yn ddiogel, byddwn yn cadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae hyn yn golygu na fydd y staff yn gallu eich helpu i ddadlwytho.
Dim ond un person fydd yn cael mynd allan o’r car – dewch ag eitemau y gallwch gario ar ben eich hun.
A oes angen i mi drefnu fy ngwastraff cartref a gwahanu’r ailgylchu?
Oes, gwnewch hyn cyn dod os gwelwch yn dda. Dylech wahanu gwydr, poteli a thybiau plastig, cartonau, tuniau, caniau a phapur a chardiau.
Beth na allaf ddod gyda mi?
Ni allwn dderbyn gwastraff adeiladu/DIY megis rwbel, ffenestri, drysau, pridd, pren neu fwrdd plastr. Bydd angen i chi fynd â’r eitemau hyn i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Pam na allaf ddod â threlar neu fan i’r Ganolfan Ailgylchu Symudol?Dyma fy ngherbyd personol, nid yw’n gerbyd masnach.
Os oes gennych chi drwydded i’ch fan, caniateir i chi drefnu apwyntiad. Gallwch wneud cais am drwydded ar ein gwefan.
Mae gennym hyn a hyn o apwyntiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Symudol – nid ydym yn caniatáu llwythi mewn trelars gan eu bod yn cymryd mwy o amser i’w dadlwytho, sy’n golygu y bydd llai o apwyntiadau ar gael.
Sut ydych yn diogelu’r staff yn y Canolfannau Ailgylchu Symudol?
Bydd pob aelod o staff yn cydymffurfio â’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar y safle, a bydd ganddynt Gyfarpar Diogelu Personol i’w caniatáu i ymgymryd â’u dyletswyddau’n ddiogel. Helpwch ni i’w cadw’n ddiogel drwy gadw pellter o 2 fetr (6 troedfedd) rhyngoch chi a’r staff.
Pam bod yn rhaid i mi roi fy rhif ffôn wrth archebu?
Mae Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni gadw cofnod o ymwelwyr a staff y safle, a chasglu gwybodaeth gan bob ymwelydd. Byddwn yn cadw’r wybodaeth hon am 21 diwrnod ac yn ei rhannu gyda Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru os oes angen - i helpu i adnabod pobl a all fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws.
Ni fydd modd i chi drefnu apwyntiad heb ddarparu’r wybodaeth hon.