Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref - dewisiadau eraill

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref - dewisiadau eraill


Summary (optional)
Os na fyddwch yn gallu ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, mae dewisiadau eraill i’ch helpu i gael gwared â'ch gwastraff.
start content

Os nad ydych yn gallu ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, mae yna ddewis arall ar gael fel arfer – er y dylech fod yn ymwybodol nad yw'r Cyngor yn gallu cynnig cymorth neu gefnogaeth yn yr holl amgylchiadau.

Rwy’n cael anhawster cyrraedd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref

Os nad ydych yn gallu ymweld â neu os y byddech yn cael anhawster defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref, mae’r Cyngor yn cynnig Gwasanaeth Casglu Gwastraff Mawr y telir amdano. Bydd staff yn dod i’ch eiddo ac yn mynd ag eitemau mawr neu swmpus. Ni fydd eitemau na ellir eu derbyn mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref fel arfer yn gymwys ar gyfer casgliad Gwastraff Swmpus.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu a thalu, ewch i dudalen casgliadau gwastraff swmpus.

Mae gennyf wastraff masnachol nad oeddwn yn cael mynd ag ef i'r safle

Os yw eich gwastraff masnachol yn eitemau ailgylchu bach neu wastraff a gynhyrchwyd wrth redeg eich busnes o ddydd i ddydd (er enghraifft os oes gennych fagiau o duniau, gwydr, papur, plastig ac ati) yna dylech, yn ôl y gyfraith, gael gwared â'r gwastraff hwn drwy gludwr gwastraff masnachol trwyddedig. Byddwch angen cadw cofnod o hyn (a elwir yn Nodyn Trosglwyddo Gwastraff Rheoledig) yn eich eiddo drwy’r amser. Dylech allu darparu'r rhain ar gais i swyddogion y Cyngor neu Gyfoeth Naturiol Cymru.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Ailgylchu a Gwastraff Masnach.

Os ydych angen gwaredu dodrefn, offer trydanol neu offer diwydiannol trwm ac ati, byddwch angen dod o hyd i gontractwr arbenigol (trydydd parti) preifat i’ch cynorthwyo, gan nad yw’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ar gyfer hyn.

Rwyf wedi cael fy ngwrthod yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref gan fod gennyf ormod o’r un math o wastraff

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn gweithredu o dan bolisi ‘defnydd teg’. Efallai na fydd staff y safle’n gadael i chi waredu’r holl wastraff ar un waith os oes gennych lawer o’r un peth (er enghraifft os ydych yn casglu eitemau fel hobi ac yna’n dymuno gwaredu bocsys o’r un eitem). Mae hyn er mwyn rhoi siawns deg i eraill ddefnyddio’r safle nes gellir gwagu’r cynwysyddion.

Os bydd hyn yn digwydd i chi, efallai y byddwch yn dymuno ystyried mynd â llai o’ch eitemau i’r ddau safle. Os byddwch angen gwaredu’r holl eitemau ar yr un pryd, efallai y bydd angen i chi logi cwmni gwaredu gwastraff (preifat) arbenigol.

Mae gennyf fath arall o wastraff na dderbynnir mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref

Er bod y Cyngor yn ceisio derbyn cymaint o fathau o wastraff â phosibl gan drigolion, mae yna rai eitemau nad yw’n gallu eu derbyn am resymau cyfreithiol neu oherwydd pryderon Iechyd a Diogelwch.

Mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma: pa eitemau sydd ddim yn cael mynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref?

end content