Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwyddedau Faniau a Cherbydau o fath Masnachol


Summary (optional)
Mae'n anghyfreithlon gwaredu gwastraff busnes gyda gwastraff y cartref. Er mwyn atal busnesau rhag defnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yng Nghonwy, ni chaniateir mynediad i faniau na cherbydau eraill o fath masnachol heb drwydded.
start content

Mae trwyddedau ar gyfer faniau a cherbydau o fath masnachol yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim.

Mae dwy drwydded wahanol - darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus a dewis yr opsiwn sydd fwyaf perthnasol i chi.

Unwaith yr ydych wedi cyflwyno cais, fe fydd eich trwydded yn cael ei phrosesu o fewn 2-3 diwrnod gwaith ac yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atoch ar e-bost.

Trwyddedau un defnydd

Bydd Trwyddedau Un Defnydd yn cael eu cyflwyno i breswylwyr sydd:

  • Yn berchen ar gerbyd sy'n arddangos arwyddion/logos/hysbysebion busnes eraill neu sydd â defnydd o gerbyd o'r fath
  • Yn dymuno llogi/benthyg neu ddefnyddio fan neu gerbyd o fath masnachol NAD yw wedi'i gofrestru i'w cyfeiriad cartref.
  • Yn dymuno defnyddio ôl-gerbyd echel ddwbl

I wneud cais am y drwydded hon mae'n rhaid i chi ddarparu:

  • Dwy ddogfen ar wahân i ddangos tystiolaeth eich bod yn byw o fewn Sir Conwy
  • Rhestr o'r eitemau yr ydych yn bwriadu eu gwaredu yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Sylwer - os ydych yn bwriadu gwaredu gwastraff DIY neu wastraff adeiladu codir tâl amdano, byddwch angen talu am hwn ar ôl cyrraedd y ganolfan ailgylchu gwastraff cartref.

Mae trwyddedau un defnydd yn ddilys ar gyfer un tro yn unig ac mae'n rhaid eu defnyddio o fewn un mis calendr o'r dyddiad cyflwyno.

Gallwch wneud cais am uchafswm o 2 drwydded un defnydd mewn cyfnod o 12 mis.


Trwyddedau domestig

Bydd trwyddedau domestig yn cael eu cyflwyno i breswylwyr sy'n berchen ar fan neu gerbyd o fath masnachol sydd:

  • Wedi'i gofrestru i aelwyd yng Nghonwy at ddefnydd personol neu breifat ac NID ar gyfer defnydd busnes
  • NAD yw'n arddangos unrhyw arwyddion/logos/hysbysebion busnes eraill
  • Yn llai na 2 metr o uchder

I wneud cais am y drwydded hon mae'n rhaid i chi ddarparu:

  • Copi o ddogfen V5 cofrestru cerbyd
  • Dwy ddogfen arall i ddangos tystiolaeth eich bod yn byw yn yr un cyfeiriad â'r un y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru iddo.

Mae Trwyddedau Domestig yn rhoi mynediad i’r aelwyd 20 o weithiau i’r canolfannau ailgylchu.

Bydd arnoch angen eich rhif trwydded i drefnu eich apwyntiad yn y ganolfan ailgylchu. Bob tro y byddwch yn archebu, byddwn yn anfon e-bost i roi gwybod i chi faint o ymweliadau sydd gennych ar ôl. Os nad ydych yn defnyddio e-bost, gallwch ffonio ein Tîm Cyngor ar 01492 575337 i wirio hyn.

Gallwch wneud cais am un drwydded ddomestig mewn cyfnod o 12 mis.

Gellir canfod yr amodau a thelerau llawn ar y ffurflenni cais, neu yn ein Polisi defnydd safle canolfannau ailgylchu gwastraff cartref (PDF, 533KB).

Gwnewch gais ar-lein neu lawr lwythwch Ffurflen gais trwydded un defnydd (PDF, 390KB)

Gwnewch gais ar-lein neu lawr lwythwch Ffurflen gais trwydded ddomestig (PDF, 93KB)

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu sylwadau pellach ynglŷn â'n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref neu'r cynllun trwyddedu, llenwch ein ffurflen ar-lein.

end content