Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Pa eitemau sydd ddim yn cael mynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref?

Pa eitemau sydd ddim yn cael mynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref?


Summary (optional)
Gellir mynd â’r rhan fwyaf o wastraff i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, ond mae rhai eitemau na allwn eu derbyn.
start content

Gall bron yr holl wastraff a gynhyrchir gan gartref arferol yn eu bywyd bob dydd fynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Ond mae yna rai eitemau na all y Cyngor eu derbyn, naill ai oherwydd nad yw’n addas i ddelio gyda nhw neu y byddai’n anghyfreithlon i’r Cyngor wneud hynny.

Ni fydd yr eitemau canlynol yn cael eu derbyn yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref o dan unrhyw amgylchiadau:

EitemGwybodaeth ychwanegol
Gwastraff Clinigol Heintus (nodwyddau,
rhwymynnau neu fagiau colostomi)
Siaradwch gyda’ch Meddyg Teulu, fferyllfa leol neu nyrs gymunedol am gymorth i waredu gwastraff clinigol heintus.

Petrol a Diesel

Byddwch angen cysylltu gydag arbenigwr gwaredu tanwydd lleol i waredu petrol neu ddiesel.
Ffrwydron rhyfel Gallwch ildio ffrwydron rhyfel yn eich gorsaf heddlu lleol, drwy ddeliwr arfau cofrestredig neu i ddeilydd tystysgrif arfau tân arall.

Ni dddylech ei waredu eich hun.
Tân Gwyllt a Fflachiadau Morol Lle bo’n bosibl, dilynwch ganllawiau’r gwneuthurwr i’w gwaredu.

Gall tân gwyllt sydd wedi llosgi’n unig gael eu socian yn llwyr mewn dŵr, eu rhoi mewn bag ac yn eich bin sbwriel. Mae’n anghyfreithlon gwaredu tân gwyllt neu fflachiadau heb losgi yn y dull hwn.
Deunydd ffrwydrol Gweler y canllawiau uchod ar dân gwyllt a ffrwydron rhyfel.
Meddyginiaeth Dylid gwaredu meddyginiaethau neu gynnyrch cysylltiol drwy eich meddygfa neu fferyllfa leol
Carcas Anifeiliaid

Ni ellir gwaredu carcas anifeiliaid anwes na bywyd gwyllt mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Cysylltwch â’r filfeddygfa agosaf am gyngor

Rhywogaethau planhigion ymledol

Yn cynnwys: Llysiau’r Dial, Ffromlys Chwarennog, Efwr Enfawr, Llysiau’r Gingroen.

Gweler arweiniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer delio gyda chwyn ymledol

Oergellau/Rhewgellau Masnachol Os oes gennych oergell/rhewgell fasnachol fawr yn eich cartref byddwch angen cysylltu â chwmni masnachol i’w symud.


Gwastraff Masnachol

Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref i drigolion Sir Conwy yn unig. Mae’n anghyfreithiol defnyddio Canolfan Ailgylchu i waredu gwastraff masnachol. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un a ganfyddir sy’n defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref i waredu eu gwastraff masnachol.

PWYSIG: Mae staff y safle’n cadw’r hawl i wrthod mynediad i:
  • unrhyw un sy’n ceisio gwaredu eitemau gwastraff a waharddwyd
  • unrhyw un a amheuir o ddod â gwastraff masnachol
  • unrhyw un sy’n anwybyddu rheolau’r safle

Eitemau eraill

end content