Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Rwy'n poeni am rywun Rhoi gwybod am bryderon am rywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth

Rhoi gwybod am bryderon am rywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth


Summary (optional)
start content

Mae rhywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth os ydi’r gwaith maen nhw’n ei wneud, neu natur y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu, yn golygu:

  • Eu bod yn debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion mewn perygl fel rhan o’u swydd neu waith gwirfoddol
  • Bod ganddynt ymddiriedaeth, awdurdod, pŵer neu ddylanwad dros blentyn neu oedolyn mewn perygl
  • Bod disgwyl iddynt ddiogelu a pheidio gweithredu yn erbyn buddiannau unigolyn arall

Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i adrodd pryderon diogelu am unigolyn mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, waeth beth yw eu statws, proffesiwn neu lefel o awdurdod, hyd hyn oed os ydynt yn ffrind neu’n aelod o’r teulu.

Mae adrodd am bryderon yn golygu y gallwn:

  • Ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl rhag pobl allai achos perygl iddyn nhw, neu nad ydynt yn addas i weithio gyda nhw.
  • Sicrhau bod asiantaethau yn ymdrin â honiadau a phryderon yn ymwneud â diogelu mewn modd teg, cyson ac amserol, gan ddilyn canllawiau statudol
  • Sicrhau bod cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor priodol ar gyfer pawb a gaiff eu heffeithio yn ystod y broses hon

Adnabod yr arwyddion

Mae camddefnyddio ymddiriedaeth yn aml yn cynnwys datblygu perthynas amhriodol lle mae oedolyn yn gwthio’r ffiniau. Efallai y byddwch yn sylwi ar ymddygiadau megis:

  • Ffafriaeth: Rhoi breintiau, rolau neu anrhegion arbennig i unigolyn ifanc penodol.
  • Amser un i un diangen: Mynnu ar gyfarfodydd preifat, sesiynau hyfforddiant unigol, neu roi anrhegion heb ganiatâd rhieni.
  • Cyfathrebu amhriodol: Negeseuon testun, y cyfryngau cymdeithasol neu ffonio unigolyn ifanc yn hwyr yn y nos neu i drafod pynciau nad ydynt yn ymwneud â’u chwaraeon, ffydd neu addysg.
  • Cyfrinachau: Gofyn i unigolyn ifanc gadw cyfrinachau am eu rhyngweithiadau neu beth sy’n digwydd yn ystod sesiynau.

Gwneud atgyfeiriad

Os oes gennych chi bryderon am rywun mewn sefyllfa o ymddiriedaeth, llenwch ffurflen atgyfeirio Adran 5 a’i hanfon at unedddiogelu@conwy.gov.uk o fewn 24 awr i nodi'r pryder.

Mwy o wybodaeth

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ynglÅ·n â sut dylid rheoli honiadau diogelu yn erbyn ymarferwyr a phobl mewn swyddi o ymddiriedaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgyfarwyddo â’r adnoddau hyn, yn cynnwys amserlenni allweddol y dylid cadw atynt drwy gydol y broses.

Hyfforddiant pellach

Cwblhewch fodiwlau hyfforddiant Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar Reoli Honiadau Diogelu Dan Adran 5.

Pan wneir honiad yn eich erbyn chi

Dysgwch fwy am beth fydd yn digwydd os gwneir honiad diogelu yn eich erbyn chi yn eich rôl yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl.

end content