Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Rwy'n poeni am rywun Rhoi Gwybod am Blentyn mewn Perygl Beth yw'r A mlinelliad Cyf raith Gyhoeddus a Beth mae'n ei olygu i mi?

Beth yw'r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus a Beth mae'n ei olygu i mi?


Summary (optional)
start content

panel1Mae dy Weithiwr Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Conwy yn poeni nad ydi hi'n ddigon saff i ti adref. Mae'n bosibl eu bod nhw wedi ceisio newid pethau eisoes ond nad ydi pethau wedi gweithio, neu maen nhw'n teimlo ei bod mor beryglus fel bod rhaid iddyn nhw fynd yn syth at Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.



panel2Bydd dy weithiwr cymdeithasol, Mam, Dad a'r cyfreithwyr i gyd yn cael cyfarfod mawr i siarad am beth fydd yn digwydd a pha mor hir fydd hyn yn ei gymryd. Bydd dy weithiwr cymdeithasol yn gofyn am wneud asesiad risg, sy'n golygu y bydd rhaid iddyn nhw siarad gyda ti, dy rieni a phawb yn dy fywyd. Bydd hyn yn eu helpu i wneud awgrymiadau am beth ddylai ddigwydd.



panel3Mae Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn golygu y bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud wrth dy Fam a dy Dad am siarad gyda Chyfreithiwr am beth sy'n digwydd. Os na fydd pethau'n newid, mae'n bosibl y bydd rhaid i dy weithiwr cymdeithasol fynd i'r Llys gyda Mam a Dad i helpu i wneud yn siŵr dy fod ti'n saff.



panel4Mae'n bosibl y byddan nhw'n gofyn i Mam a Dad gyda phwy fyddet ti'n gallu byw os ydi'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddim yn meddwl ei bod hi'n ddigon saff i aros adref. Byddan nhw'n gofyn i ti beth wyt ti'n ei feddwl hefyd oherwydd mae dy farn di'n bwysig iawn.
Mae'r daflen wybodaeth uchod wedi'i datblygu i helpu plant a phobl ifanc ddeall beth fyddai'r broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn ei olygu iddyn nhw. Mae Gwybodaeth yn y daflen a lluniau wedi'u defnyddio gyda chaniatâd gan Wasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe.

end content