Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Rwy'n poeni am rywun Rhoi Gwybod am Blentyn mewn Perygl Beth i'w Ddisgwyl: PLO (Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus) / Cyn-Achosion

Beth i'w Ddisgwyl: PLO (Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus) / Cyn-Achosion


Summary (optional)
start content

Defnyddir y broses PLO pan fo'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn credu bod y risg i blentyn neu blant mor fawr nes bod efallai angen gofyn i'r Llys benderfynu ble dylai'r plentyn neu blant fyw neu gyda phwy y dylent fyw.

Oni bai bod argyfwng, rhaid i'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ddangos i'r Llys pa waith y maent wedi'i wneud i'ch cefnogi chi a'ch teulu i ddatrys eu pryderon cyn mynd i'r llys.

Os ydych yn rhiant neu os oes gennych Gyfrifoldeb Rhiant, byddwch yn cael llythyr cyn-achos, yn eich gwahodd i gyfarfod cyn-achos.

Bydd y llythyr yn dweud wrthych:

  • Pryd a ble bydd y cyfarfod cyn-achos.
  • Am beth mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn poeni
  • Beth sy'n rhaid i chi ei wneud i ddangos bod eich plentyn neu blant yn ddiogel.
  • Beth fydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ei wneud i'ch helpu i gyflawni'r gweithredoedd hyn


Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych:

  • Sut i gael Cyngor Cyfreithiol am Ddim
  • Pa Gyfreithwyr y gall eich helpu

Mae'n bwysig iawn eich bod yn mynd i'r cyfarfod cyn-achos a'ch bod yn darllen y llythyr cyn-achos yn ofalus fel eich bod yn deall beth sy'n digwydd a pham.

Rhaid i chi ofyn am gyngor cyfreithiol am ddim y mae gennych hawl iddo ar unwaith. Dyma'r cyfle olaf fydd gennych i ddangos y gallwch gadw eich plentyn neu blant yn ddiogel. Bydd Cyfreithiwr yn eich helpu i wneud hyn. 

Yn y cyfarfod cyn-achos rhoddir un cyfle terfynol i deuluoedd i ddangos eu bod yn barod i fynd i'r afael â'r pryderon sydd gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ynghylch diogelwch eu plentyn neu blant.

Y bobl a fydd yn bresennol yn y cyfarfod cyn-achos:

  • Y rhai gyda Chyfrifoldeb Rhiant a Gofalwyr.
  • Y Gweithiwr Cymdeithasol dynodedig a'r Rheolwr sy'n goruchwylio'r achos.
  • Y Cyfreithiwr ar gyfer y Teulu neu Deuluoedd
  • Cyfreithiwr yr Awdurdod Lleol


Yn y cyfarfod bydd pawb yn cytuno:

  • Ar gynllun terfynol yn dangos yr hyn mae'n rhaid ei wneud i gadw plentyn neu blant yn ddiogel
  • Pryd y bydd angen gwneud y newidiadau hyn
  • Pwy fydd yn gwirio pa mor dda y gofelir am y plant
  • Bydd dyddiad cyfarfod yn cael ei osod er mwyn adolygu'r cynllun terfynol

Os bydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn dal i gredu nad yw eich plentyn neu blant yn ddiogel, y cam nesaf fydd gofyn i'r Llys wneud dyfarniad o ran pwy ddylai eich plentyn neu blant fyw gyda nhw a ble y dylai/dylen nhw fyw.

Unwaith y bydd penderfyniad wedi ei wneud gan y Llys, dim ond y Llys all newid hyn.

Mae Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Conwy am i chi ddeall sut y gallwn gydweithio orau i roi anghenion eich plentyn neu blant yn gyntaf.

end content