Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Talu mewn Meysydd Parcio


Summary (optional)
start content

A oes modd i mi dalu gyda cherdyn?

Oes, mae ein peiriannau yn derbyn cardiau debyd neu gredyd. Sylwer, mae hyn yn ddibynnol ar Wi-Fi a all fod yn ysbeidiol mewn rhai mannau.  

Fedrai ddefnyddio fy ffôn i dalu?

Fedri drwy lawrlwytho’r ap PayByPhone – mae cofrestru am ddim ac yn cymryd llai na 30 eiliad i’w gwblhau.

Ddim yn berchen ffôn clyfar? Ffoniwch 0330 1096 182 i dalu am eich parcio.

A oes rhaid i mi gael yr arian cywir?

Nid yw ein peiriannau yn rhoi newid – bydd rhaid i chi dalu â’r arian cywir.


A yw’r peiriannau yn derbyn arian papur? 

Nac ydynt, nid yw ein peiriannau yn derbyn arian papur.


A oes modd i mi dalu am ddiwrnod cyfan?

Mae rhai o’n meysydd parcio yn cynnig tariff 24 awr, gwiriwch y maes parcio ar ben eich taith  i weld os yw hyn ar gael.


A oes modd i mi dalu am sawl diwrnod ar unwaith?

Oes, gallwch ddefnyddio’r system PayByPhone i dalu am barcio am hyd at 14 diwrnod.


A oes modd i mi gael trwydded flynyddol?

Oes, mae trwyddedau parcio blynyddol ar gael i’w prynu ar gyfer meysydd parcio penodol, parcio ar y stryd neu ar gyfer holl feysydd parcio y Cyngor yn sir Conwy.  Mae trwyddedau preswylwyr ar gael mewn rhai ardaloedd hefyd.

end content