Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: CHRIS


Summary (optional)
start content

Roedd ar Chris eisiau gweddnewid ei fywyd ac roedd arno angen cefnogaeth y Canolbwynt i ddilyn yr un yrfa â’i dad a dod yn yrrwr HGV.

Ers gadael yr ysgol bu Chris yn gweithio i’r un cwmni am dros ugain mlynedd.  Fe ddechreuodd yn y warws cyn mynd ymlaen i fod yn oruchwyliwr ar y warws a’r iard, a oedd yn cynnwys rheoli tîm o staff.

Wedi iddo gyflawni trosedd, fodd bynnag, anfonwyd Chris i’r carchar ac wrth iddo gwblhau ei ddedfryd cafodd ei dad ddiagnosis o salwch terfynol.  Dyna oedd y sbardun i Chris fynd ati i weddnewid ei fywyd, ac yn ei awydd i ennyn balchder ei dad fe benderfynodd ddilyn yn ôl ei draed a chael hyfforddiant i fod yn yrrwr HGV.

Wedi cael ei ryddhau o’r carchar fe atgyfeiriwyd Chris gan Hyfforddwr Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau at y Canolbwynt Cyflogaeth Cymunedol, lle cafodd ei fentor personol ei hun, Lorraine, a fyddai’n gweithio gydag ef i gyflawni ei nod.  Fel rhan o’r drefn fentora gallai Chris ddangos i Lorraine ei fod yn ymrwymo i gael ei drwydded HGV, ac felly rhoddwyd cymeradwyaeth i dalu am gwrs hyfforddiant HGV.

Y cam cyntaf i Chris oedd pasio prawf meddygol, ac yna llenwi’r holl ffurflenni angenrheidiol i gael trwydded HGV dros dro.  Aeth Chris ati i ymarfer ei brawf theori ar-lein bob dydd, ac felly pan ddaeth amser yr arholiad go iawn fe basiodd gyda marc ardderchog.  Y cam olaf i Chris oedd dechrau’r gwersi gyrru ymarferol, a llwyddodd Lorraine i drefnu gwersi â chwmni lleol. Ymhen tair wythnos roedd Chris wedi cwblhau ei wersi a hefyd wedi llwyddo yn ei brawf ymarferol.

Roedd Chris yn awyddus i gael swydd cyn gynted ag y bo modd, a bu’n gweithio â Lorraine wrth ddiwygio ei CV. Cysylltodd ag amryw asiantaethau i gael gwybod pa gyfleoedd oedd ar gael, ac mewn llai na mis llwyddodd Chris i gael swydd lawn-amser gyda chwmni cludo nwyddau. 

Wrth sôn am ei lwyddiant, dywedodd Lorraine, “Rydw i mor falch dros Chris. Fe weithiodd yn ddiwyd wrth baratoi ar gyfer ei brawf theori a’i basio, ac mae’r ffaith ei fod wedi pasio’i brawf ymarferol y tro cyntaf yn dyst i’w ymroddiad. Mae Chris wedi dangos fod gwaith caled ac ymroddiad yn talu, a dw i’n dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”

Wrth sôn am ei brofiad gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy, dywed Chris: “Fe drefnodd Lorraine bob dim imi, a hyd yn oed rhoi pres imi dalu am ddisel i fynd i’r gwersi gyrru ymarferol; doedd dim byd yn ormod o drafferth iddi.  Fe gadwodd hi mewn cysylltiad yn gyson, weithiau dim ond i holi sut oeddwn i’n cadw, ac mi fyddai’n ddiolchgar iddi am byth am fy helpu i newid fy mywyd.” 

end content